Richard Goodman Jones (Dic Goodman)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dic Goodman yn 1940.

Bardd yw Richard Goodman Jones (Dic Goodman) (ganwyd 20 Ionawr, 1920). Mae'n frodor o Fynytho, penrhyn Llŷn, Gwynedd.

Ganwyd Richard yn 1920 i'w fam, Kate, a'i dad, o'r un enw, a fu farw o fewn tri mis i enedigaeth Richard. Ailbriododd ei fam o fewn ychydig. Nid oedd gan Richard frodydd na chwiorydd, heblaw am ei gyfneithar Margaret, ac oedd gystal a chwaer iddo.

Magwyd Richard yn Mynytho, lle yr aeth i Ysgol Foel Gron. Nid yw wedi gadael ei ardal ei fagwraeth. Yn 1952 priododd hefo Laura Ellen Jones, a daeth yn dad i ddau o blant, Sian a Dafydd.

Mae Richard wedi gweithio mewn llawer o swyddi, o werthu yswiriant i fod yn athro yn Ysgol Pont-y-Gof. Yn ei flynyddoedd cynnar, yr oedd yn aelod adnabyddus o'r gymuned, yn aml yn cymryd rhan mewn eisteddfodau o gwmpas y wlad. Enillodd y gadair ychydig o weithiau.Nodyn:Angenffynhonnell Mae Dic wedi cyhoeddi llawer o lyfrau o'i farddoniaeth, yn cynnwys Hanes y Daith, ac hefyd llyfr am y gofod. Mae'n adnabyddus am ysgrifennu englynion.

Erbyn heddiw, mae Dic dal yn fyw, yn 87 mlwydd oed. Mae'n byw ym Mynytho hefo'i wraig.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Caneuon y Gwynt a'r Glaw (1975)
  • I'r Rhai sy'n gweld Rhosyn Gwyllt (1979)