Richard FitzAlan, 11eg Iarll Arundel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr a milwr Seisnig oedd Richard FitzAlan, 11fed Iarll Arundel a 10fed Iarll Surrey (1346 – 21 Medi 1397). Bu Owain Glyndŵr yn rhan o'i osgordd am gyfnod.

Roedd yn fab i Richard FitzAlan, 10fed Iarll Arundel ac Eleanor o Lancaster. Olynodd ei dad fel Iarll yn 1376. Roedd ei frawd, Thomas Arundel, yn Archesgob Efrog o 1388 to 1397, yna'n Archesgob Caergaint.

Bu'n ymladd yn erbyn Ffrainc yn y Rhyfel Can Mlynedd; yn 1377 roedd yn llynghesydd y gorllewin a'r de. Ymosododd ar Harfleur yn 1378, ond yn aflwyddiannus; yn ddiweddarach, methodd ei ymgais ef a John o Gaunt i gipio Saint-Malo. Penodwyd ef yn llynghesydd Lloegr yn 1386, ac yn mis Mawrth 1387 gorchfygodd lynges o Ffrainc, Sbaen a Fflandrys mewn brwydr gerllaw Margate, brwydr yr ymladdodd Glyndŵr ynddi.

Roedd mewn cynghrair a Thomas o Woodstock, Dug Caerloyw, oedd yn gwrthwynebu dymuniad Rhisiart II, brenin Lloegr i roi dowedd ar y Rhyfel Can Mlynedd. Yn 1397, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o gynllwynio gyda Dug Caerloyw i garcharu'r brenin, a dienyddiwyd ef yn Llundain.