Rhys Ddu

Oddi ar Wicipedia
Rhys Ddu
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farw1410 Edit this on Wikidata

Uchelwr Cymreig ac un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw Owain Glyn Dŵr oedd Rhys Ddu neu Rhys ap Gruffudd (bu farw 1409).

Roedd Rhys yn frodor o Morfa Bychan, Ceredigion, ac yn fab i Gruffudd ap Llywelyn ab Ieuan. Bu'n Siryf Sir Aberteifi yn y 1390au. Ymunodd â gwrthryfel Glyn Dŵr, ac roedd yn dal castell Aberystwyth dros Owain yn 1407, pan ymosododd byddin Seisnig dan y Tywysog Harri, yn ddiweddarach Harri V, brenin Lloegr arno. Wedi trafodaethau heddwch, cytunodd Rhys i ildio'r castell erbyn dyddiad penodol os nad oedd y gwarchae Seisnig wedi ei godi. Fodd bynnag, pan aeth at Owain i ofyn am ganiatâd i ildio'r castell, daeth Owain i Aberystwyth a bygwth torri pen unrhyw un a geisiai ildio'r castell, yn cynnwys Rhys.

Syrthiodd y castell i'r Saeson y flwyddyn wedyn. Ymddengys i Rhys gael ei gymeryd yn garcharor mewn ymgyrch ar ororau Swydd Amwythig yn 1409, a dienyddiwyd ef yn Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]