Rhys Meirion

Oddi ar Wicipedia
Rhys Meirion
Rhys; Rhuthun, Mai 2011.
Ganwyd24 Chwefror 1966 Edit this on Wikidata
Tremadog Edit this on Wikidata
Label recordioCwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Albwm cyntaf Rhys yn 2001

Tenor o Ruthun, Sir Ddinbych sy'n enedigol o ardal Porthmadog yw Rhys Meirion Jones. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro yn Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun. Yn ôl Y Times, "Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role."[1] Astudiodd yn gyntaf yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna'n ddiweddarach yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n unawdydd gyda Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr a Chwmni Opera Cymru; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain).

Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o Symffoni rhif 9 Beethoven dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu Desert Island Disks yn y Royal Festival Hall Llundain a Requiem Verdi yn Neuadd Frenhinol Albert.

Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm Benedictus - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.[2]

Rhannau[golygu | golygu cod]

Mae ei rolau'n cynnwys Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madama Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore, Nadir yn Y Pysgotwyr Perlau, Marcello yn La Boheme gan Leoncavallo, y Dug yn Rigoletto, Tebaldo yn Capuletti e Montecchi, Tamino yn Y Ffliwt Hud, y rôl deitl yn Ernani, Morwr yn Tristan und Isolde, Rinuccio yn Gianni Schicchi, Canwr Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, Froh yn Das Rheingold, Zinovy yn Lady Macbeth of Mtzensk a nifer eraill.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]