Rhyfel y Peloponnesos

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhyfel Peloponesaidd)
Rhyfel y Peloponnesos
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad431 Edit this on Wikidata
Rhan oPeloponnesian wars Edit this on Wikidata
Dechreuwyd431 CC Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Ebrill 404 CC Edit this on Wikidata
LleoliadGroeg yr Henfyd, Môr Aegeaidd, Asia Leiaf, Sicily, Sisili Edit this on Wikidata
Yn cynnwysArchidamian War, Sicilian Expedition, Decelean War Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y ddwy ochr yn Rhyfel y Peloponnesos. Coch:Athen a'i chyngheiriaid; Glas: Sparta a'i chyngheiriaid; Llwyd: Tiriogaethau Groegaidd eraill.

Ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos yng Ngwlad Groeg rhwng 431 CC a 404 CC, rhwng Athen a'i chyngheiriaid a Chynghrair y Peloponnesos dan arweiniad Sparta. Diweddodd y rhyfel gydag Athen yn ildio, ac yn colli ei hymerodraeth.

Yn gyffredinol, rhennir y rhyfel yn dair rhan gan haneswyr:

  1. Rhyfel Archidamos, wedi ei enwi ar ôl y brenin a chadfridog Archidamos II o Sparta, o 431 CC hyd 421 CC.
  2. Heddwch Nikias, o 421 CC hyd tua 413 CC.
  3. Rhyfel Dekeleia-Ionia, o tua 413 CC hyd nes i Athen ildio yn 404 CC.

Cyn y rhyfel, Athen oedd y grym mwyaf yng Ngwlad Groeg; wedi'r rhyfel, cymerwyd ei lle gan Sparta am gyfnod, hyd nes iddi hithau gael ei gorchfygu gan Thebai ym Mrwydr Leuctra (371 CC). Fodd bynnag, roedd y colledion yn drwm ar y ddwy ochr, ac ystyrir fod y rhyfel wedi rhoi diwedd ar oes aur Groeg. Ceir hanes y rhyfel yn bennaf yng ngwaith yr hanesydd Thucydides.