Rhyfel Iberia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mai'r Ail 1808 ym Madrid gan Francisco Goya sy'n portreadu gwrthryfel gan drigolion Madrid yn erbyn y goresgynwyr Ffrengig ar y dyddiad hwnnw.

Cystadleuaeth rhwng Ymerodraeth Ffrainc a'r cynghreiriaid Sbaen, y Deyrnas Unedig a Phortiwgal dros Benrhyn Iberia yn ystod Rhyfeloedd Napoleon oedd Rhyfel Iberia[1] neu Ryfel Annibyniaeth Sbaen (Sbaeneg: Guerra de la Independencia)[2] (1808–14). Meddianwyd Portiwgal gan luoedd Ffrainc a Sbaen ym 1807, ond trodd Ffrainc yn erbyn Sbaen ym 1808. Collodd Ffrainc y rhyfel hwn a Rhyfel y Chweched Glymblaid gan arwain at gwymp Napoleon.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, [peninsular].
  2. (Saesneg) Peninsular War. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: