Rhyfel Cyffuriau Mexico

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhyfel cyfredol yw Rhyfel Cyffuriau Mexico rhwng cartelau cyffuriau sy'n brwydro'i gilydd a lluoedd llywodraeth Mexico sy'n ceisio atal y fasnach cyffuriau. Ers cwymp y cartelau Colombiaidd Cali a Medellín yn y 1990au, mae cartelau Mexico wedi llwyddo i ddominyddu'r fasnach cyffuriau yn yr Unol Daleithiau, ac mae'r cartelau Mecsicanaidd yn brwydro yn erbyn ymdrechion i atal eu gweithgareddau dros y goror. Mae'r Unol Daleithiau yn cynorthwyo Mexico trwy Gynllun Mérida.

Flag of Mexico.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Fexico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato