Rhyfel Chwe Diwrnod

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhyfel Chwech Diwrnod)
Rhyfel Chwe Diwrnod
Delwedd:Guèrra dei Sièis Jorns.png, צנחנים בכותל המערבי.jpg
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Mehefin 1967 Edit this on Wikidata
Rhan oGwrthdaro Arabaidd-Israelaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Mehefin 1967 Edit this on Wikidata
Daeth i ben10 Mehefin 1967 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganArgyfwng Suez Edit this on Wikidata
Olynwyd gany Rhyfel Athreuliol Edit this on Wikidata
LleoliadY Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Israel a'r tiriogaeth a feddiannodd yn ystod (ac wedi) y Rhyfel Chwe Diwrnod.

Ymladdwyd y Rhyfel Chwe Diwrnod (Hebraeg: מלחמת ששת הימים, Milhemet Sheshet Ha‑Yamim; Arabeg: حرب الأيام الستة, ħarb al‑ayyam as‑sitta), a elwir hefyd yn "Rhyfel Israel-Arabaidd 1967", y Trydydd Rhyfel Arab-Israelaidd, Rhyfel Mehefin, neu an‑Naksah yn Arabeg ("Yr Atalfa"), rhwng Israel a'r gwladwriaethau Arabaidd yr Aifft, Gwlad Iorddonen, Irac, a Syria. Mae'r rhyfel hwn yn rhan o'r Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd.

Cynyddai'r tensiynau rhwng Israel a'i chymdogion Arabaidd ar ddechrau 1967. Pan orfodwyd Llu Argyfwng y Cenhedloedd Unedig gan yr Aifft i adael gorynys Sinai, gan gynyddu ei gweithgareddau milwrol ger y ffin ag Israel a gwrthod mynediad i longau Israelaidd a geisiai fynd i Gulfor Tiran (ger Aqaba). Lansiodd Israel gyrch milwrol rhagflaenol ar lu awyr yr Aifft am ei bod yn ofni ymosodiad buan o du'r Aifft. Yn ei thro ymosododd Gwlad Iorddonen ar ddinasoedd Israelaidd Jerwsalem a Netanya. Erbyn diwedd y rhyfel roedd Israel wedi cipio Llain Gaza, gorynys Sinai, y Lan Orllewinol, ac Ucheldiroedd Golan. Mae canlyniadau'r rhyfel tyngedfennol hwnnw yn effeithio ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol hyd heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.