Rhyfel Cartref Somalia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Rhyfel Cartref Somalia yn wrthdaro arfog yn Somalia a ddechreuodd ym 1991.

Cwymp y Siad Barre (1986–1992)[golygu]

Dechreuodd rhan gyntaf y rhyfel cartref yn sgîl gwrthryfeloedd yn erbyn cyfundrefn gormesol Siad Barre. Pan gafodd ei ddisodli ar y 26ain o Ionawr, 1991, gwelwyd gwrthchwyldro mewn ymgais iddo ddychwelyd fel arweinydd y wlad.

Gwelwyd sefyllfa o anrhefn a thrais a esblygodd i fod yn argyfwng dyngarol a sefyllfa o anarchiaeth llwyr.

Yn hwyrach ym 1991, er mwyn pellhau ei hun o'r brwydro treisgar yn y de, penderfynodd ardal Somaliland yn Somalia ddatgan ei hannibynniaeth, er na chydnabyddir ei sofreniaeth gan unrhyw genedl neu sefydliad rhynglwadol. Mae'n cynnwys ardal gogledd-orllewinol y wlad, rhwng Djibouti a'r ardal a elwir yn Puntland yn y gogledd-ddwyrain.

Ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig[golygu]

Arweiniodd Cydraniadau 733 a 746 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig at greu UNOSOM I, yr ymgyrch gyntaf i ddarparu gofal dyngarol a cheisio cael trefn yn Somalia ar ôl ei ymddatodiad o'r llywodraeth ganolog.

Pasiwyd Cydraniad 794 Cyngor Dioglewch y CU yn unfrydol ar y 3ydd o Ragfyr, 1992, a roddodd sêl bendith i glymblaid o gadwyr heddwch i greu UNITAF o dan arweiniad yr Unol Daleithiau. Rhoddwyd y dasg iddynt o sicrhau fod cymorth dyngarol yn cael ei ddosbarthu a bod heddwch yn cael ei sefydlu yn Somalia. Cyrhaeddodd y lluoedd dyngarol y CU ym 1993, gan ddechrau eu hymgyrch dwy flynedd o gael gwared o newynnu (yn bennaf yn ne'r wlad).

Milwr Americanaidd yn dangos lleoliad posib saethwr cudd wrth brif fynedfa Porthladd Mogadishu (Ionawr 1991)

Dywedodd y bobl a feirniadodd ymyrraeth y CU "ychydig cyn y di-sodlwyd yr Arlywydd Mohamed Siad Barre, a oedd yn cefnogi'r UDA, ym 1991, roedd dwy ran o dair o diriogaeth y wlad wedi rhoi hawliau olew i Conoco, Amoco, Chevron a Phillips. Reodd Conoco wedi rhoi benthyg ei safle corfforaethol ym Mogadishu i'r llysgenhadaeth Americanaidd hyd yn oed, ychydig ddyddiau cyn y glaniodd y morlu, gyda llysgenhadol arbennig gweinyddiaeth yr Arlywydd Bush cyntaf yn ei ddefnyddio fel eu pencadlys dros dro." [1][2] Yr awgrym sinigaidd oedd bod yr Unol Daleithiau yn cymryd yr awennau er mwyn gallu rheoli'r hawliau olew yn hytrach nag am resymau dyngarol. Nid oes unrhyw dystiolaeth cadarn fod gan Somalia gyflenwadau olew, ond credir fod posibilrwydd o gyflenwadau ger Puntland. Hyd yn oed heddiw, mae chwilio am olew yn parhau i fod yn after dadleuol. Rhybuddiodd y Llywodraeth Ffederal Dros Dro buddsoddwyr i beidio a gwneud unrhyw gytundebau nes y deuai sefydlogrwydd yn ôl i'r wlad.[3]

Rhwng mis Mehefin a Hydref, cafwyd nifer o frwydrau gynnau ym Mogadishu rhwng bobl leol a chadwyr yr heddwch, gan arwain at farwolaethau 24 o Bacistan ac 19 o filwyr Americanaidd (gyda chyfanswm o 31 o farwolaethau Americanaidd), gyda'r mwyafrif ohonynt yn cael eu lladd ym Mrwydr Mogadishu. Lladdwyd 1000 o filwyr Somalïaidd yn y frwydr honno. Yn ddiweddarach, daeth y digwyddiad yn sail ar gyfer y llyfr a'r ffilm, "Black Hawk Down". Tynnodd y CU allan o'r ardal ar y 3ydd o Fawrth, 1995, ar ôl dioddef colledion sylweddol. Nid yw trefn wedi cael ei adfer yn Somalia o hyd.

Rhannu Somalia[golygu]

Rhwng 1998–2006 gwelwyd nifer o daleithiau yn datgan elfennau o annibynniaeth yn Somalia. Yn wahanol i'r Somaliland, camau tuag at annibynniaeth a welwyd yn hytrach na datganiadau uniongyrchol o annibynniaeth lawn.

Datganodd talaith Puntland annibynniaeth "dros dro" ym 1998, gyda'r nod o gymryd rhan mewn unrhyw gymodi Somalaidd er mwyn creu llywodraeth ganolog newydd.

Gwelwyd ail fudiad ym 1998 hefyd, pan ddatganodd talaith Jubaland eu hannibynniaeth yn y de. Sefydlwyd trydydd uned ym 1999 o dan arweiniad y Fyddin Gwrthsefyll Rahanweyn, a oedd yn debyg i sefyllfa Puntland. Ail-ddechreuodd wrthgiliad "dros dro" yn 2002. Arweiniodd hyn i annibynniaeth de-orllewin Somalia. Yn wreiddiol, sefydlodd y Fyddin Gwrthsefyll Rahanweyn weinyddiaeth annibynnol dros ardaloedd Bay a Bakool yn ne a chanol Somalia ym 1999.

Sefydlwyd pedwerydd talaith annibynnol o'r enw Galmudug yn 2006, o ganlyniad i bŵer cynyddol Undeb y Llysoedd Islamaidd.

Er y cydnabyddir Somaliland yn gyfreithiol ac yn rhyngwladol fel ardal annibynnol o fewn Gweriniaeth Somalaidd, mae ei llywodraeth eisiau annibynniaeth lawn wrth Somalia.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gwelwyd ymdrechion i gymodi ond cymysg fu'r llwyddiant. Arweiniodd mudiadau fel Llywodraeth Genedlaethol Dros Dro a'r Cyngor Cymodi ac Adennill Somalaidd at sefydlu y Llywodraeth Ffederal Dros Dro yn 2004. Fodd bynnag, parhaodd trais yr arglwyddi rhyfel ac ymysg gwahanol lwythi trwy gydol y cyfnod, ac ychydig iawn o reolaeth oedd gan mudiadau'r llywodraeth dros y wlad yn ystod y cyfnod hwn.

Ymdriniaeth y wasg o'r gwrthdaro[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]