Rhyfel Algeria

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Algeria
Rhan o gyfnod datrefedigaethu ar ôl yr Ail Ryfel Byd

o'r chwith i'r dde, rhes 1af: colofn o wrthryfelwyr Mwslemaidd yr ALN; patrôl gan M8 Greyhound o Fyddin Ffrainc; pieds-noirs Constantine yn arfogi eu hunain. 2il res: anerchiad Charles de Gaulle ar 4 Mehefin 1958; gwrthdystiad pieds-noirs o blaid de Gaulle yn Algiers ar 13 Mai 1958; cyn-filwyr Mwslemaidd harki ym 1958. 3edd res: Wythnos yr Atalgloddiau yn Ionawr 1960; pieds-noirs yr FAF yn taflu cerrig at Fyddin Ffrainc ar 9 Rhagfyr 1960; milwr Ffrengig yn defnyddio canfodydd metel wrth archwilio menywod Mwslimaidd am fomiau. 4edd res: terfysg yr FLN yn Bab el Oued, 10 Rhagfyr 1960; milwyr Ffrengig yn defnyddio gynnau nwy dagrau yn Algiers; cefnogwyr yr FLN yn wynebu awyr-filwyr Ffrengig yn ystod protestiadau 10 Rhagfyr 1960.
Dyddiad 1 Tachwedd 1954 – 19 Mawrth 1962
Lleoliad Algeria
Canlyniad
Cydryfelwyr
Algeria FLN
MNA
Ffrainc Ffrainc FAF
(1960–61)
Organisation de l'armée secrète (OAS)
(1961–62)
Arweinwyr
Mohamed Si Moussa Benahmed
Saadi Yacef
Mustapha Benboulaïd
Ferhat Abbas
Houari Boumedienne
Hocine Aït Ahmed
Ahmed Ben Bella
Krim Belkacem
Larbi Ben M'Hidi
Rabah Bitat
Mohamed Boudiaf
Messali Hadj
Paul Cherrière (1954–55)
Henri Lorillot (1955–56)
Raoul Salan (1956–58)
Maurice Challe (1958–60)
Jean Crepin (1960–61)
Fernand Gambiez (1961)
Guilain P. Denoeux (1961–62)
Said Boualam
Pierre Lagaillarde
Raoul Salan
Edmond Jouhaud
Jean-Jacques Susini
Nerth
15,000 ar ei anterth, 45,000 ar gyfer yr holl ryfel 670,000
90,000 Harki
3,000 (OAS)
Anafusion a cholledion
153,000 yn marw, 160,000 wedi'u hanafu
1,500,000 yn marw yn ôl llywodraeth Algeria
25,600 yn marw
65,000 wedi'u hanafu
100 yn marw (OAS)
2,000 mewn carchar (OAS)
Sifiliaid wedi'u lladd neu wedi'u hanafu: 800,000+

Rhyfel rhwng Ffrainc a mudiadau cenedlaetholgar Algeriaidd o 1 Tachwedd 1954 i 19 Mawrth 1962 oedd Rhyfel Algeria (Arabeg: ثورة جزائرية; Ffrangeg: Guerre d'Algérie), a arweiniodd at annibyniaeth Algeria oddi ar Ffrainc. Roedd yn rhyfel pwysig yng nghyfnod datrefedigaethu (decolonization war), ac yn wrthdaro cymhleth a nodir gan ryfela herwfilwrol, terfysgaeth, artaith, a gwrthchwyldroadaeth.

Ym Mawrth 1954 sefydlwyd y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (FLN) gan naw Algeriad oedd yn byw'n alltud yn yr Aifft, gan gynnwys Ahmed Ben Bella. Ar 1 Tachwedd 1954 dechreuodd yr FLN rhyfel herwfilwrol ac ymgyrch derfysgol yn erbyn Ffrainc gyda'r nod o ennill annibyniaeth i Arabiaid Mwslimaidd Algeria. Anfonodd llywodraeth Ffrainc lluoedd Ffrengig i Algeria Ffrengig i frwydro'r FLN gan ddefnyddio strataegaeth wrthchwyldroadol a gwrthderfysgol, oedd yn cynnwys cyflafanau, artaith, a chyrchoedd ar bentrefi Mwslimaidd.

Ymunodd setlwyr Ewropeaidd Algeria, y pieds-noirs, â swyddogion Byddin Ffrainc i ddymchwel llywodraeth Ffrainc yn ystod argyfwng Mai 1958, a dychwelodd Charles de Gaulle, arweinydd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i arwain Ffrainc. Croesawyd de Gaulle gan y pieds-noirs, ond ym 1959 datganodd y bydd yn sicrháu hunan-benderfyniad ar gyfer holl boblogaeth Algeria.

Ymdrechodd y pieds-noirs i wrthryfela yn erbyn de Gaulle yn Wythnos yr Atalgloddiau ym 1960 a Putsch y Cadfridogion yn Ebrill 1961, ond arhosodd mwyafrif y fyddin y ffyddlon i de Gaulle yn y ddwy achos. Ym Mawrth 1962 cytunwyd ar gadoediad rhwng llywodraeth Ffrainc a chynrychiolwyr yr FLN yn Évian, Ffrainc. Pleidleisiodd yr Algeriaid dros annibyniaeth mewn refferendwm yng Ngorffennaf 1962. Yn sgîl hyn ymfudodd y mwyafrif o pieds-noirs i Ffrainc.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Behr, E. The Algerian Problem (Llundain, Hodder and Stoughton, 1961).
  • Berstein, S. The Republic of de Gaulle, 1958–1969 (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1993). Cyfieithwyd gan Peter Morris.
  • Cairns, J. C. 'De Gaulle as President: First Triumphs and Last Memoirs', The American Historical Review, 78(5) (1973), t. 1406–20.
  • Connelly, M. A Diplomatic Revolution: Algeria’s Fight for Independence and the Origins of the Post–Cold War Era (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002).
  • Crozier, B. De Gaulle: The Statesman (Llundain, Eyre Methuen, 1973).
  • De Gaulle, C. 'Excerpts from address by General Charles de Gaulle on Sept. 16, 1959', Africa Today, 6(5) (1959) tt. 16–7.
  • De Gaulle, C. Memoirs of Hope: Renewal 1958–62, Endeavour 1962– (Llundain, Weidenfeld and Nicolson, 1971). Cyfieithwyd gan Terence Kilmartin.
  • Gordon, D. C. The Passing of French Algeria (Llundain, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1966).
  • Harrison, A. Challenging de Gaulle: The O.A.S. and Counterrevolution in Algeria, 1954–1962 (Westport, CT, Praeger, 1989).
  • Heggoy, A. A. Insurgency and Counterinsurgency in Algeria (Llundain, Gwasg Prifysgol Indiana, 1972).
  • Horne, A. A Savage War of Peace: Algeria 1954–1962 (Efrog Newydd, New York Review Books, 2006).
  • Lacouture, J. De Gaulle: The Ruler, 1945–1970 (Llundain, Harvill, 1992). Cyfieithwyd gan Alan Sheridan.
  • O'Ballance, E. The Algerian Insurrection, 1954–62 (Llundain, Faber and Faber, 1967).
  • Pickles, D. 'General de Gaulle and Algeria', The World Today, 17(2) (1961) tt. 49–58.
  • Sulzberger, C. L. The Test: De Gaulle and Algeria (Llundain, Rupert Hart-Davis, 1962).
  • Talbott, J. 'French Public Opinion and the Algerian War: A Research Note', French Historical Studies, 9(2) (Hydref, 1975), tt. 354–61.