Rhyfel Affganistan (2001–presennol)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Rhyfel Afghanistan (2001–presennol))
Neidio i: llywio, chwilio

Dechreuodd y Rhyfel Affganistan presennol ym mis Hydref 2001 wrth i luoedd arfog yr Unol Daleithiau ymosod ar Affganistan fel ymateb i ymosodiadau terfysgol 11 Medi. Cafodd yr Unol Daleithiau gymorth milwrol gan luoedd Affgani Cynghrair y Gogledd a NATO, yn cynnwys milwyr y Deyrnas Unedig, Canada, Awstralia, Ffrainc, Seland Newydd, yr Eidal a'r Almaen. Y goresgyniad oedd dechrau'r hyn a elwir gan rai y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth".[1]

Ers i'r rhyfel ddechrau mae miloedd o sifiliaid wedi eu lladd, yn cynnwys dwsinau o ferched a phlant a laddwyd pan fomiodd awyrennau Americanaidd bentref yn ne-orllewin Affganistan ar ddechrau Mai 2009. Mae dros 298 o filwyr Prydeinig wedi colli eu bywydau a 1,836 o filwyr NATO wedi colli eu bywydau ers cychwyn y rhyfel (hyd at Mehefin 2010).[2]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Flag of Afghanistan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Affganistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.