Al-Alam TV

Oddi ar Wicipedia
Al-Alam TV
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu, sianel deledu thematig Edit this on Wikidata
IaithArabeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
PerchennogIslamic Republic of Iran Broadcasting Edit this on Wikidata
PencadlysTehran Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://alalam.ir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sianel newyddion rhyngwladol 24 awr y dydd sydd â'i phencadlys yn Iran yw Al-Alam TV. Mae'n darlledu yn Arabeg yn bennaf gydag ambell raglen Saesneg hefyd. Mae ar gael yn y Dwyrain Canol, rhannau o Ewrop, Asia a Gogledd America. Dechreuodd ddarlledu yn Chwefror 2003.[1] Ystyr yr enw Arabeg al-Alam yw "Y Byd". Mae gwasaneth Arabeg Al-Alam yn ffynhonnell bwysig am newyddion rhyngwladol i wylwyr yn y Dwyrain Canol. Un o'r rhesymau am hynny efallai yw'r ffaith ei bod ar gael yn rhad ac am ddim trwy ddisgiau lloeren.[1]

Rhyfel Gaza[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009, yn ystod ymosodiad Israel ar Lain Gaza, Press TV ac Al-Alam oedd yr unig rai gyda phresenoldeb yn Gaza ei hun (roedd gan Al-Jazeera a'r BBC ohebwyr lleol yn adrodd ar eu rhan hefyd). Roedd y newyddiadurwyr rhyngwladol hyn yn defnyddio adeilad yng nghanol dinas Gaza ac wedi rhoi manylion llawn ei leoliad i'r awdurdodau Israelaidd a'r Cenhedloedd Unedig er mwyn diogelwch. Roedd y staff wedi cadw'r golau ymlaen ar lawr uchaf yr adeilad trwy gydol y rhyfel hefyd, er mwyn ei ddiogelu. Er hynny, tua 1700 UTC ar y 9fed o Ionawr 2009 trawyd yr adeilad gan roced Israelaidd gan anafu dau o'r staff a difrodi rhan o'r offer darlledu. Doedd dim bomio arall yn y gymdogaeth a chyhuddodd Press TV yr Israeliaid o ymosod yn fwriadol ar y newyddiadurwyr, yn groes i gyfraith ryngwladol. Drwgdybiwyd fod yr ymosodiad yn ymgais i rwystro'r unig ffynhonnell lluniau byw o Gaza rhag darlledu ar y diwrnod y cyhoeddodd llywodraeth Israel fod trydedd ran "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn cychwyn a'r Israeliaid ar fin ceiso anfon eu milwyr i mewn i'r ddinas ei hun.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.