Rhithwir
Byd afreal wedi'i gynhyrchuu gan gyfrifiadur ydy rhithwir (Saesneg: Virtual reality) a ddechreuwyd oddeutu i'r 1970au. Caiff ei ddefnyddio i roi profiad o lefydd gwahanol i'r defnyddiwr e.e. Second Life neu goden-hedfan ble mae'r defnyddiwr yn mynd drwy'r broses o hedfan awyren (efelychiad) oddi fewn i goden neu mewn ystafell. Ar hyn o bryd, profiad i'r llygad a'r glust ydy rhithwir, er fod ambell synnwyr arall yn dechrau ymddangos e.e. cryndod ac arogl. Gelwir y bodau digidol yn avatar.
Datblygiad o rithwir (a dalfyrir yn Saesneg yn A.R.) ydy gor-realaeth (Saesneg: Augmented Reality) sy'n brofiad byw o'r byd go-iawn ond fod haen o wybodaeth digidol i'w weld yn ogystal e.e. meddalwedd Wikitude ar ffôn clyfar fel iPhone gyda marciwr yn dangos gwybodaeth am y gwrthrychau a welir ar gamera'r ffôn.
Ffilmiau [golygu]
- Yn 1999 lansiwyd The Matrix i'r sgrin fawr, ffilm a oedd yn ymchwil dychmygol o hyd a lled byd rhithwir, neu rithwir dychmygol (Simulated Reality) wedi'i greu gan beiriannau deallus.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
Dolennau allanol [golygu]
- Mixed Reality Scale - Milgram and Kishino’s (1994) Virtuality Continuum paraphrase with examples