Rhisiart Clwch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Marsiandwr adnabyddus o Sir Ddinbych oedd Syr Rhisiart Clwch, neu Syr Richard Clough yn Saesneg (tua 15301570). Roedd yn asiant i Elisabeth I, brenhines Lloegr ac yn gynrychiolydd Syr Thomas Gresham yn Ewrop. Bu farw yn Hamburg yn 1570. Ei ail wraig oedd Catrin o Ferain, aeres Berain, Dyffryn Clwyd, ac o'r briodas honno roedd Hester Thrale yn disgyn.

Adeiladodd Clwch blasdy Bachegraig, Tremeirchion, Sir y Fflint (yn Sir Ddinbych heddiw) yn 1567. Roedd yn adeilad arloesol yng Nghymru a'i arddull yn seiliedig ar bensaernïaeth newydd cyfnod y Dadeni ar gyfandir Ewrop. Cysylltir traddodiadau llên gwerin â Bachellgraig a'i berchennog. Cafodd y tŷ ei godi yn hynod o gyflym a sibrydid mai gwaith y Diafol ydoedd. Roedd cyflenwad newydd o ddeunydd adeiladu i'w cael bob bore mewn nant a elwir o hyd yn Nant y Cythraul. Roedd rhai yn credu fod Clwch yn astudio'r sêr mewn stafell ym mhen y tŷ gyda chymorth y Diafol ei hun. Torrodd ei wraig Catrin i mewn i'r stafell un noson a dihangodd y Diafol trwy'r mur yn dal Clwch yn ei freichiau![1]

Ceir peth o hanes Rhisiart Clwch a'i ail wraig yn y nofel hanesyddol Dinas Ddihenydd, yr ail o'r triawd am Gatrin o Ferain gan R. Cyril Hughes.

Cartrefi a fu yn nheulu'r Clychiaid[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Bachegraig.

Dolenni allanol[golygu]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.