Rhisglyn yr helyg
Peribatodes rhomboidaria | |
---|---|
Gwryw o Dresden (yr Almaen) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Rhaniad: | Ditrysia |
Teulu: | Geometridae |
Llwyth: | Boarmiini |
Genws: | Peribatodes |
Rhywogaeth: | P. rhomboidaria |
Enw deuenwol | |
Peribatodes rhomboidaria (Denis & Schiffermüller, 1775) | |
Cyfystyron | |
Numerous, see text |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn yr helyg, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl yr helyg; yr enw Saesneg yw Willow Beauty, a'r enw gwyddonol yw Peribatodes rhomboidaria.[1][2] Mae'n eithaf cyffredin drwy Ewrop, y Dwyrain Agos a Maghreb.
Lled adenydd agored y gwryw ydy 40–48 mm ac yng ngwledydd Prydain mae'r oedolyn i'w weld ar ei adain rhwng Mehefin a Medi.
Er gwaethaf ei enw mae'r siani flewog yn bwyta amrywiaeth o blanhigion gan gynnwys:
- Betula (bedwen)
- Camellia sinensis (te)
- Clematis
- Crataegus (draenen wen)
- Hedera (iorwg)
- Ligustrum (privet)
- Malus (afallen)
- Prunus
- Taxus (yr ywen)
- Vitis (y winwydden)
Isrywogaethau[golygu | golygu cod]
- Peribatodes rhomboidaria corsicaria (Schawerda 1931)
- Peribatodes rhomboidaria defloraria (Dannehl 1928)
- Peribatodes rhomboidaria rhomboidaria (Denis & Schiffermüller, 1775)
- Peribatodes rhomboidaria sublutearia (Zerny 1927)
Cyffredinol[golygu | golygu cod]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r rhisglyn yr helyg yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.