Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crib gogledd-ddwyreiniol Sgurr a' Choire Ghlais yn ymestyn i'r cymylau; Marilyn a Munro.

Dyma restrau cydnabyddiedig o copaon gwledydd Prydain yngŷd â'u henwau a'u diffiniadau. Ceir nifer fawr o restrau neu ddosbarthiadau tebyg sy'n categoreiddio mynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd megis uchder, amlygrwydd y copa neu gategoriau eraill. Mae llawer o gerddwyr yn ceisio cerdded i ben rhestr gyfan o copaon ac wedi creu cymdeithas o gerddwyr cyffelyb.

Munros[golygu]

Prif erthygl: Munro.
Y Munro, Carn Dearg (1221 m), copa gogledd-orllewin Ben Nevis, uwchben y cymylau.

Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y Munros a grewyd yn 1891 gan Syr Hugh Munro, 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 troedfedd yn yr Alban yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy Ben Nevis sy'n 1,344 metr (4,409 tr).

Yr Alban[golygu]

Corbetts[golygu]

Prif erthygl: Corbett.

copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r Corbetts, gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw.

Donalds[golygu]

Donald: Broad Law, iseldir yr Alban, gan edrych tua'r copa.

Percy Donald a luniodd y Rhestr o gopaon dros 2,000 o droedfeddi (609.6 metr). Dim ond yn iseldiroedd yr Alban mae'r copaon hyn. Mae'r fformiwla sy'n eu diffinio'n eitha cymhleth; mae'n rhaid i'r bryncyn o'r math hwn gael amlgygrwydd o 30 m (98 tr). Ceir 140 Donalds: 89 ohonyn nhw'n fryniau a 51 yn copaon.

Grahams[golygu]

Bryniau yn yr Alban o rhwng 2,000 a 2,499 tr (609.6 a 761.7 m), gydag amlygrwydd o 150 m (490 tr). Cyhoeddwyd y rhestr hon yn gyntaf gan Alan Dawson mewn llyfr o'r enw The Relative Hills of Britain ond galwyd y copaon ar ôl Fiona Torbet (née Graham) a luniodd restr debyg tua'r un pryd. Dawson sy'n cynnal y rhestr hyd heddiw (2011), rhestr o 224 bryn wedi'u rhannu fel a ganlyn: Yr Ucheldir i'r de o Great Glen 92; yr Ucheldir i'r gogledd o'r Great Glen 84; Canol a de'r Alban 23; Ynys Skye 10; Mull 7; Harris 3; Jura 2; Arran 1; Rum 1 a de Uist 1.

Yn 2004 cyhoeddodd Dawson restr o copaon Grahams (Saesneg: Graham Tops) yn yr Alban i lawr i 610 m o ran uchder a 30 m o ran uchder cymharol. Ceir 777 ohonyn nhw.

Murdos[golygu]

Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl copaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson.

Y tu allan i'r Alban[golygu]

Hewitt[golygu]

Acronym yw'r enw hwn o'r Saesneg: The Hewitts are Hills in England, Wales and Ireland over Two Thousand feet (609.6 m). Mae eu huchder cymharol o leiaf 30 metr (98 tr). Ceir 527 Hewitt i gyd: 211 yn Iwerddon, 178 yn LLoegr a 138 yng Nghymru. Yn wreiddiol cyfrifwyd y Mynydd Du yn y ddwy wlad: Cymru a Lloegr ond ers 1997 caiff ei ystyried i fod yng Nghymru'n unig.

Nuttall[golygu]

Moel Ysgyfarnogod - sy'n Hewitt ac yn Nuttall.

Mynyddoedd a bryniau dros 2,000 troedfedd (610 m), yng Nghymru a Lloegr ydy Nuttalls. Rhaid iddynt gael uchder cymharol o 15 metr (49 tr) o leiaf. Ceir 443 Nuttall: 253 yn Lloegr a 190 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan John ac Anne Nuttall a chyhoeddwyd mewn tair cyfrol o'r enw The Mountains of England & Wales.

Dewey[golygu]

Bryniau a mynyddoedd sydd rhwng 500 metr (1,640 tr) a 609.6 m (2,000 tr) yng Nghymru neu Lloegr yw Dewey; mae'n rhaid i'w huchder cymharol hefyd fod yn fwy na 30 m (98 tr). Caiff y rhestr swyddogol ohonynt ei gadw gan Michael Dewey a'i gyhoeddi yn ei lyfr Mountain Tables.

Gwledydd Prydain[golygu]

Marilyns[golygu]

Prif erthygl: Marilyn (mynydd).
Un o Farilyns Cymru: Pumlumon Fawr

Bryn neu fynydd ydy Marilyn - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel gair mwys i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn yr Alban: Munro. Ceir 2,009 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 157 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.

HuMPs[golygu]

Prif erthygl: HuMP.

Bryn neu fynydd ydy HuMP - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 100 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa, yn wahanol i Farilyn sydd ag uchder cymharol (neu drop yn Saesneg) o 150m neu fwy. Ceir tua 1,431 ohonyn nhw.

Uchder
troedfeddi
Uchder
metrau
Amlygrwydd
metrau
yr Alban Cymru a Lloegr
pob un 150+ Marilyn
3000+ 914.4+ 100+ HuMP
heb ei ddiffinio Munro, Munro Top Furth
30+ Murdo
2500+
ond is na 3000
762.0+
ond is na 914.4
152.4+ (500tr) Corbett
30.5+ (100tr)
ond is na 152.4
Corbett Top
2000+
ond is na 2500
609.6+
ond is na 762.0
150+ Graham
30+
ond is na 150
Graham Top
2000+ 609.6+ 30+ Hewitt
15+ Nuttall
500+
ond is na 609.6
30+ Dewey

[1]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) [http://www.biber.fsnet.co.uk/database_notes.html Gwefan "Database of British Hills"