Rhestr gwaharddiadau ysmygu yn ôl gwlad

Oddi ar Wicipedia
Pictogram a ddefnyddir yn aml lle mae gwaharddiad ar ysmygu ar waith.

Rhestr o waharddiadau ysmygu yn ôl gwlad y ceir isod.

Baner Cymru Cymru[golygu | golygu cod]

Ers 2 Ebrill 2007, gwaharddir ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig, ac mae'n rhaid dangos arwydd gyda'r geiriau, Mae ysmygu yn y fangre hon yn erbyn y gyfraith, er na ddefnyddir y gair "mangre" (adeilad) fel arfer y dyddiau hyn.

Baner Lloegr Lloegr[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y gwaharddiad yn Lloegr ar 1 Gorffennaf 2007, yn ôl yr un ddeddf seneddol fel y ceir yng Nghymru (y Ddeddf Iechyd 2006).

Baner Sbaen Sbaen[golygu | golygu cod]

Rhwng 2006 a 2010 roedd peth gwaharddiadau ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yn Sbaen: swyddfeydd, ysgolion, ysbytai a thrafnidiaeth. Yr adeg hon caniatawyd i dafarnau a llefydd bwyta i nodi ardaloedd ysmygu neu hyd yn oed yn gyfan gwbwl os oeddent yn llai na 100m2 o ran maint.[1] Mae deddf gwahardd ysmygu yn Sbaen, bellach, ond mae llawer o bobl yn ei hanwybyddu.[angen ffynhonnell]

Baner Albania Albania[golygu | golygu cod]

Pasiwyd gwaharddiad ysmygu cenedlaethol yn Albania ym mis Mehefin 2006, gyda mwyafrif mawr yn y senedd, pan bleidleisiodd 75 o aelodau o blaid y gwaharddiad a dim ond 2 yn ei erbyn.[2] Mae'r gyfraith yn arbennig o lym ac yn ei wneud yn anghyfreithlon i:

  • ysmygu neu brynu deunyddiau ysmygu gan rai o dan 18 oed
  • werthu deunyddiau ysmygu ar y stryd neu unrhyw le arall cyhoeddus
  • werthu deunyddiau ysmygu heb eu pacio a/neu i ddefnyddio deunyddiau ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sefydliadau, bwytai, ysgolion, ysbytai, cerbydau a.y.y.b.

Mewn bwytai, caniateir ysmygu mewn llefydd agored tu allan i'r prif adeilad yn unig. Mae'n rhaid arddangos gwybodaeth ynglŷn ag effeithiau ysmygu ar flaen pob pecyn o sigarennau ac mae'n rhaid iddi gymryd 30-50% o'r lle ar y pecyn. Rhaid iddynt beidio â chynnwys gwybodaeth gamarweiniol na hybu gwerthiant drwy bwysleisio lefel is o gemegyn y gallai gynnwys.

Mae llinell ffôn ar gael i ddinasyddion allu adrodd unrhyw fusnesau neu unigolion sy'n torri'r gyfraith.

Mae 40% o Albaniaid yn ysmygwyr rheolaidd, lle mai 60% ohonynt yw ddynion ac mai 40% yw ferched.[3] Tra bod y gyfraith yn un o'r rhai mwyaf llym yn Ewrop, mae gweithredu'r gwaharddiad wedi bod yn llai llwyddiannus. Mae'r rhai sy'n torri'r gyfraith yn cael dirwy ond nid yw'r rhain bob amser yn cael eu talu.[4]

Mae'r ddirwy yn uchel[5]:

  • 50,000 LEK (~US$550) ar gyfer unigolion neu fusnesau sy'n torri'r gyfraith (mae'r ddirwy'n cynyddu am fwy nag un trosedd a gall busnesau golli eu trwydded gweithredu)
  • 100,000 LEK (~US$1,100) am werthu deunyddiau ysmygu ar y stryd neu unrhyw le arall cyhoeddus
  • 3,000,000 LEK (~US$33,000) ar gyfer mewnfudwyr sy'n hysbysebu gwerthiant y deunydd
  • 5,000,000 LEK (~US$55,000) ar gyfer y cyfryngau sy'n gadael i'r hysbysebu ddigwydd

Gwaharddiadau arfaethedig[golygu | golygu cod]

Yn y Weriniaeth Tsiec, mae mesur seneddol ar gyfer gwahardd ysmygu ym mhob man cyhoeddus ac ym mhob man caeedig megis tafarndai a bwytai sydd heb le ar wahân i ysmygu gydag awyriad parhaol sydd heb effaith ar ardaloedd di-fwg. Mae nifer o fesurau seneddol yn cynnig gwaharddiadau tebyg wedi bod yn ddiweddar, ond ni chafodd y rhain byth eu gweithredu gan y Siambr Dirprwyon.[6]

Mae Caledonia Newydd yn debyg o gyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yn dilyn menter ddiweddar i fesur ansawdd yr aer mewn 25 gwlad ar draws y byd.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Spain sees smoking ban take hold". BBC News. 2 January 2006.
  2. Erthygl ar ysmygu yn Albania
  3. "Anti-smoking measures on restaurants in Albania". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2007-11-21.
  4. Law fails to deter Albanian smokers; Southeast European Times
  5. Law protecting health from smoke products in Albania[dolen marw]
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2007-11-21.
  7. http://www.rnzi.com/pages/news.php?op=read&id=32704

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato