Rheilffordd Gwili

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwili Railway.jpg

Mae Rheilffordd Gwili yn rheilffordd stêm led safonol ym mhentref Bronwydd 3 milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin. Enwyd ar ôl Afon Gwili, mae’r Rheilffordd yn mynd ar ei hyd am 2½ milltir rhwng Bronwydd Arms a Danycoed wrth dramwyo drwy diroedd amaeth ac elltydd llethrog llawn coed.

Hanes [golygu]

Mae’r Rheilffordd yn dilyn y brif lein wreiddiol rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a ffurfiai unwaith ran o gyswllt di-dor rhwng Gogledd a De Cymru. Wedi’i hadeiladu ar y dechrau gan y Carmarthen & Cardigan Railway Company, gyda’i led llydan 7'0¼", a’r Manchester & Milford Railway Company, fe brynwyd y lein ymhen amser gan y Great Western Railway. Cludai deithwyr a chynhyrchion lleol – gwlân, da byw, llaeth a choed – cyn iddi fynd yn ysglyfaeth i ddiwygiadau yr Arglwydd Beeching. Daeth trenau teithwyr i ben ym mis Rhagfyr, 1964, ac ymadawodd y trên llaeth olaf ym mis Medi, 1973.

Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Gwili ym mis Ebrill, 1975, a phrynodd 8 milltir o wely trac rhwng Cyffordd Abergwili a Llanpumpsaint. Rhedodd y trên teithwyr cyntaf yn 1978 i arhosfan newydd ei hadeiladu yng Nghwmdwyfran. Cymerwyd y trac dros Afon Gwili trwy ddau estyniad byr pellach i orsaf newydd ag enw Llwyfan Cerrig.

Yn 2001 agorwyd estyniad pellach hyd at orsaf newydd ag enw Danycoed. Mae gwaith yn symud yn ei flaen i estyn y lein tua’r de i gyfeiriad cyn-Gyffordd Abergwili a hynny yw’r safle arfaethedig i orsaf newydd yn gyfagos i ffordd osgoi Dwyrain Caerfyrddin. Mae Cwmni Rheilffordd Gwili wedi prynu 3·6 erw o dir ar bwys y ffordd osgoi gyda’r bwriad o adeiladu maes parcio ar gyfer ceir a bysus. Cynllunir adeiladu caffi, amgueddfa fach a sied geotsis yn safle yr orsaf arfaethedig.

Mae’r Rheilffordd yn gweithredu gwasanaethau rhwng 80-90 diwrnod y flwyddyn ac yn cludo dros 20,000 o deithwyr bob blwyddyn ac yn ogystal â’i gwasanaethau teithwyr arferol mae’n trefnu digwyddiadau arbennig poblogaidd iawn fel ‘Diwrnod Allan Gyda Tomos’, Trenau Hudol Siôn Corn, trenau cinio dydd Sul, trenau noson jazz, siartrau ffotograffig a chyrsiau sy’n cynnig y profiad o yrru injan stêm.

Rheilffordd Gwili
 
Unused tunnel continuation backward
 ar ôl Pencader
 
Unknown BSicon "exTUNNELe"
 Twnel Pencader (985 llath)
 
Unknown BSicon "exBHF"
 Llanpumsaint
 
Unknown BSicon "exBRÜCKE2"
 
 
Water turning from left Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Transverse water
 
 
Water turning left Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water turning from right
 
 
Transverse water Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water turning right
 
 
Water transverse and ahead Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water turning from right
 Afon Duad
 
Water turning right Unknown BSicon "exBHF" Water
 Conwil
 
Water turning from left Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water turning right
 
 
Water turning left Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water turning from right
 Afon Gwili
 
Water turning from left Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water turning right
 
 
Water Unknown BSicon "xENDEa"
 
 
Water Stop on track
 Arosfa Danycoed
 
Water Station on track
 Llwyfan Cerrig
 
Water turning left Small bridge over water Water turning from right
 
 
Underbridge Water
 
 
Station on track Water
 Bronwydd Arms
 
Level crossing Water
 B4301
 
Level crossing Water
 
 
Unknown BSicon "xENDEe" Water
 
 
Unknown BSicon "exAKRZu" Water
 Ffordd Dolgwili
 
Unknown BSicon "exBHF" Water turning left
 Gorsaf newydd arfaethedig
 
Unknown BSicon "tABZrg" Unknown BSicon "extSTRq" Unused tunnel continuation to left
 Cyffordd Abergwili
 
Unknown BSicon "extSTR"
 
 
Unknown BSicon "KBHFxa"
 Caerfyrddin
 
Continuation to left Transverse track Unknown BSicon "ABZqlr" Transverse track Continuation to right
  Rheilffordd De Cymru

Dolenni allanol [golygu]