Rheilffordd Dyffryn Nene

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Dyffryn Nene
Gorsaf Peterborough
Ardal leolSwydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr
TerminwsPeterborough
Gweithgaredd masnachol
EnwRheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Adeiladwyd ganRheilffordd Llundain a Birmingham
Maint gwreiddiol1,435 mm (4 ft 8 12 in)
Yr hyn a gadwyd
Gweithredir ganRheilffordd Dyffryn Nene
Gorsafoedd5
Hyd7.5 mile (12.1 km)
Maint 'gauge'1,435 mm (4 ft 8 12 in)
Hanes (diwydiannol)
1847Agorwyd
1966Caewyd i deithwyr
1972Caewyd i nwyddau
Hanes (Cadwraeth)
1983ailagorwyd adeiladau Gorsaf Orton Mere
1986agorwyd Gorsaf Peterborough (Dyffryn Nene)
1995agorwyd Gorsaf Wansford
2007ailagorwyd Gorsaf Cyffordd Yarwell (terminws presennol)
2008agorwyd Cyffordd Yarwell yn swyddogol
Rheilffordd Dyffryn Nene
Unused continuation backward
Lein Ely-Peterborough
Unknown BSicon "eBHF"
Peterborough (Dwyrain)
Unknown BSicon "KRZu"
Lein Arfordir Dwyrain
Unknown BSicon "ABZgr"
Station on track
Peterborough (Dyffryn Nene)
Unknown BSicon "ABZg+l"
Station on track
Llyn Orton
Station on track
Dolydd y Fferi
Level crossing
Lön Ham
Unknown BSicon "eBHF"
Castor
Unknown BSicon "exCONTgq" Unknown BSicon "eABZg+r"
GN i Stamford
Level crossing
hen Ffordd y Gogledd
Station on track
Wansford
Enter and exit tunnel
Twnnel Wansford (616 llath)
Station on track
Cyffordd Yarwell
Unknown BSicon "exABZgl"
Rheilffordd Northampton a Peterborough
Unused continuation forward
LNWR i Rugby
Dosbarth B 4-6-0 Swedaidd Rhif 101

Mae Rheilffordd Dyffryn Nene (Saesneg: Nene Valley Railway) yn rheilffordd dreftadaeth yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, sy'n mynd o Peterborough (Dyffryn Nene) hyd at Gyffordd Yarwell, saith milltir a hanner i ffwrdd.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Ym 1845 rhoddwyd caniatâd i'r Rheilffordd Llundain a Birmingham i adeiladu rheilffordd rhwng Blisworth yn Swydd Northampton i Peterborough, a cwblhawyd y lein ym 1847.[1] Terminws y lein oedd gorsaf reilffordd Dwyrain Peterborough, ac mae ei hadfeilion wedi goroesi. Gorffennodd gwasanaethau ar gyfer teithwyr i Northampton yn 1964 ac i Rugby yn 1966. Parhaodd gwasanaeth nwyddau hyd at 1972.[2]

Ailfywiad[golygu | golygu cod]

Prynwyd locomotif Dosbarth 5 BR 4-6-0 73050 am £3,000 gan y Parch Richard Paten ym 196. Roedd ei fwriad i arddangos 73050 tu allan Coleg Technolog Peterborough, ond darganfuwyd bod y locomotif yn gyflwr da.[2]

Ffurfiwyd Cangen Peterborough o Gymdeithas Locomotif Angliaidd Dwyrain ar 28 Mawrth 1969 efo bwriad o brynu ac adfer y locomotif 4-6-2 70000 'Britannia'. Ail-enwyd y gangen Cymdeithas Locomotif Peterborough ym 1970, ac eto i Gymdeithas Rheilffordd Peterborough ym 1971, yn lansio syniad o greu Rheilffordd Dyffryn Nene.

Pryniant y lein a locomotifau[golygu | golygu cod]

Ym 1974, prynodd Corfforiaeth Datblygiad Peterborough y lein rhwng Longville a Chyffordd Yarwell ac ei llogodd i'r Gymdeithas. Bwriadwyd defnyddio locomotifau Prydeinig, ond erbyn hyn roedd mwyafrif ohonynt mewn cyflwr da wedi cael eu prynu gan reilffyrdd eraill. Dim ond 73050 oedd yn addas ar gyfer trenau teithwyr, ac roedd cerbydau addas yn brin hefyd. Roedd y Gymdeithas yn awyddus i ddechrau gwasanaeth cyn agoriad Parc Nene ym 1978.

Ym 1973, Richard Hurlock, aelod y Gymdeithas, wedi gofyn i'r Gymdeithas am ganiatâd i gadw ei locomotif Swedaidd (dosbarth S1 2-6-4T) ar y rheilffordd. Ym 1974, sylweddolwyd bod hi'n bosibl defnyddio locomotifau a cherbydau o gyfandir Ewrop wrth ddymchwel dim ond un bont dros y lein. Roedd angen culhau'r platfformau.[2]

Ailagoriad[golygu | golygu cod]

Agorwyd Canolfan Stêm Wansford dros y Basg ym 1974, a rhedodd y trên gyntaf ar gyfer teithwyr ar 1 Mehefin 1977.

Estyniad i Peterborough[golygu | golygu cod]

Trên yng Ngorsaf Peterborough (Dyffryn Nene)

Penderfynwyd estyn y lei o Lyn Orton i orsaf newydd yn ymyl Amgueddfa Railworld.[2] Agorwyd Gorsaf Reilffordd Peterborough (Dyffryn Nene) ar benwythnos gŵyl y banc 26 Mai 1986.

Fletton[golygu | golygu cod]

Ailagorwyd dolen rhwng Rheilffordd Dyffryn Nene a lein arfordir dwyreiniol rhwng Llundain a Chaeredin ar 1 Mawrth 2013[3]

Datblygiadau Arfaethedig[golygu | golygu cod]

Dolen y Cilgant[golygu | golygu cod]

Mae wedi bod sôn am ddolen y cilgant, hyrwyddwyd gan Amgueddfa Railworld ers 1999, Buasai trenau'n pasio trwy ben gorllewinol Parc Nene ac ar draws yr afon i'r brif orsaf Peterborough er mwyn cysylltu â'r rhyngrwyd genedlaethol. Ond does dim sicrwydd bod y prosiect yn mynd ymlaen

Oundle/Elton[golygu | golygu cod]

Mae'r gymdeithas eisiau estyn y lein i'r gorllewin, trwy Elton i Oundle. Roedd ymgais i gwblhau'r estyniad yn y 90au, ond heb lwyddiant oherwydd diffyg arian.

Locomotifau Stêm[golygu | golygu cod]

Gweithredol[golygu | golygu cod]

0-6-0T Dosbarth Slask/TK Rhif 5485 o'r Wlad Pwyl

[4]

  • Cwmni Hudswell Clarke 0-6-0T Rhif 1800 'Thomas'[4] – Yn gweithio yn iard Wansford ac ar trenau rhwng Wansford a Yarwell yn unig.
  • Dosbarth 5 BR 4-6-0 Rhif 73050 'City of Peterborough.' Adeiladwyd ym 1954.[4]
  • Dosbarth 4F Fowler 0-6-0 Rhif 44422. Adeiladwyd ym 1927.

Ymwelwyr

Atgyweirir[golygu | golygu cod]

  • Dosbarth Bulleid 'Battle of Britain' gwreiddiol 4-6-2, Rhif. 34081 '92 Squadron'. Adeiladwyd ym 1948. Cyrhaeddodd Wansford 20 Mai 2010 o Reilffordd Gogledd Swydd Norfolk ar gyfer atgyweiriad mawr. Gadawodd o'r Rheilffordd Dyffryn Nene yn wreiddiol yn 2003.
  • Dosbarth F 0-6-0T o Ddenmarc Rhif 656. Adeiladwyd ym 1949. Yn cael atgyweiriad mawr.
  • Dosbarth S 2-6-2T o Sweden Rhif 1178. Adeiladwyd ym 1914. Yn cael atgyweiriad mawr.
  • Cwmni Hudswell Clarke 0-6-0ST Rhif 1308 'Rhos'. Yn cael atgyweiriad mawr.
  • Cwmni Cockerill 0-4-0WT locomotif tramffordd. Rhif.1626 'Toby' Adeiladwyd ym 1890. Yn cael atgyweiriad mawr.

Yn Cadw[golygu | golygu cod]

  • Dosbarth Slask/TKp 0-8-0T o Wlad Pwyl Rhif 5485. Adeiladwyd ym 1959. Tynnwyd o wasanaeth yn 2012 ar gyfer atgyweiriad, ond mae'r perchennog yn ceisio ei werthu o.
  • Dosbarth B 4-6-0 o Sweden Rhif. 101A. Adeiladwyd ym 1944.[4] Tynnwyd o wasanaeth yn 2005 ar gyfer atgyweiriad ac yn dal i ddisgwyl.
  • Dosbarth 'Austerity' Cwmni Hunslet 0-6-0ST Rhif 75006. Adeiladwyd ym 1943. Yn disgwyl am atgyweiriad ers 2004.
  • Dosbarth 64 2-6-2T o'r Almaen Rhif 64.305. Adeiladwyd ym 1936. Yn disgwyl am atgyweiriad. Gobeithiwyd dechrau gwaith ar ôl cwblhau gwaith ar 1178, ond mae hynny'n annhebyg oherwydd costiau cael gwared o'i asbestos.
  • Cwmni Hudswell Clarke 0-6-0ST Rhif 1539 'Derek Crouch' Adeiladwyd ym 1924. Arddangoswyd yn wreiddiol yn iard, ond symudwyd i'r gweithdy ar gyfer atgyweiriad allanol. Bwriadir ei symud i leoliad presennol 'Jacks Green'.
  • Cwmni Hunslet 0-6-0ST Rhif 1953 'Jacks Green' Adeiladwyd ym 1939.[4] Wedi atgyweirir yn allanol yn ddiweddar, ac arddangosir rhwng adeilad yr orsaf a'r troadwy. Yn disgwyl am atgyweiriad, ac am ail-beintio yn ei lifrai diwydiannol gwreiddiol

Locomotifau diesel[golygu | golygu cod]

Gweithredol[golygu | golygu cod]

No D306 'Atlantic Conveyor' yn gweithio
  • Dosbarth 31 BR A1A-A1A Rhif 31108 (lifrai Railfreight gwreiddiol). Defnyddir yn rheolaidd.
  • Dosbarth 14 BR 0-6-0 Rhif No D9520. Defnyddir yn achlysurol ar drenau teithwyr.
  • Cwmni Injan Swydd Efrog. 0-6-0 "Janus" Rhif D2670 'Stanton Rhif 50'
  • Cwmni Sentinel 4 olwyn Rhif 10202 'Barabel'. Defnyddir yn rheolaidd yn y iard.
  • Cwmni Sentinel 0-6-0 Rhif DL83. Defnyddir yn rheolaidd yn y iard ac yn achlysurol ar drenau teithwyr.
  • Uned 3 cerbyd diesel Dosbarth 107, rhifau 52005, 59791 a 52031
  • Dosbarth 14 D9529 "14029" BR 0-6-0 diesel-hydrolig.

Atgyweirir[golygu | golygu cod]

  • Dosbarth 14 BR 0-6-0 Rhif D9504 Stratrail.
  • Cwmni Hibberd 0-4-0 Rhif 2896 'Frank'. Yn cael atgyweiriad mawr.
  • Cwmni Injan Swydd Efrog. Rhif D2654. Yn cael atgyweiriad.
  • Dosbarth 56 BR Co-Co Rhif 56128. Cyrhaeddodd Wansford yn 2008 ar gyfer atgyweiriad. Bydd yn cael ei defnyddio ar y prif reilffyrdd o dan rheolaeth Cwmni Tyniant Hanson efo rhif 56313
  • Cerbyd diesel dosbarth Y7 1212 B-2 'Helgar' Atgyweiriad i gorff y cerbyd.

Yn Cadw[golygu | golygu cod]

Locomotifau sydd wedi gadael[golygu | golygu cod]

Dosbarth B1 LNER 1306 "Mayflower," erbyn hyn ar Reilffordd Maes y Gad, Shackerstone.

Locomotifau Stêm[golygu | golygu cod]

Locomotifau Diesel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • The Nene Valley Railway gan John Rhodes (Cyhoeddiadau Turntable, 1976).
  • Peterborough's first railway: Yarwell to Peterborough gan PJ Waszak a JW Ginns (Rheilffordd Dyffryn Nene, 1995).
  • 'Nene Steam' (cylchgrawn y rheilffordd) o 1979 ymlaen.
  • Gwefan y Gymdeithas Gwarchodaeth Rheilffordd Rhyngwladol
  1. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan Rheilffyrdd Stêm". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-06. Cyrchwyd 2013-08-17.
  2. Gwefan y Peterborough Telegraph[dolen marw]
  3. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Gwefan Doc Brown
  4. "Hive of Activity". A personal View of the Nene Valley Railway. Cyrchwyd 13 Mawrth 2011.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]