Rheilffordd Amwythig i Gaer

Oddi ar Wicipedia
Yr Amwythig i Gaer

Rheilffordd Amwythig i Gaer (Saesneg: Shrewsbury to Chester Line), neu Rheilffordd Hafren-Dyfrdwy yw'r rheilffordd sy'n cysylltu Amwythig a Chaer.

Adeiladwyd y rheilffordd gan Cwmni Rheilffordd Amwythig & Caer rhwng 1846 a 1848.

Agorwyd y llinell o Gaer i Riwabon ar 4 Tachwedd 1846 - gyda gorsafoedd yn Saltney, Yr Orsedd, Gresffordd, Wrecsam, a Rhiwabon - ac o Riwabon i'r Amwythig ar 14 Hydref 1848, gyda gorsafoedd yng Nghefn, Llangollen Road (Arhosfa Whitehurst yn nes ymlaen), Y Waun, Preesgwyn (Weston Rhyn yn nes ymlaen), Gobowen, Whittington, Rednal, Baschurch a Leaton.

Ar un adeg roedd y llinell yn rhan o'r brif linell Rheilffordd y Great Western o Lundain (Paddington) i Benbedw (Woodside). Dim ond chwech o'r gorsafoedd sydd yn agor heddiw, sef: Caer, Wrecsam Cyffredinol, Rhiwabon, Y Waun, Gobowen, a'r Amwythig.

Heddiw mae trenau yn rhedeg ar dair linell;

Yn Chwefror 2008, cyhoeddwyd gwasanaeth newydd Trenau Virgin o Lundain (Euston) i Wrecsam, trwy Chaer a Crewe, o Ragfyr 2008.