Rhedynen Fair

Oddi ar Wicipedia
Athyrium
Athyrium filix-femina
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Pteridophyta
Dosbarth: Polypodiopsida
Urdd: Polypodiales
Teulu: Athyriaceae
Genws: Athyrium
Roth
Darlun o'r 19fed ganrif o'r Athyrium filix-femina

Fel y dengys yr enw, math o redyn yw Rhedynen Fair, (enw Lladin: Athyrium filix-femina; Saesneg: Lady Fern). Ceir oddeutu 180 math gwahanol o'r genws hwn, sef Athyrium. Mae'r Athyrium yn perthyn i'r teulu a elwir yn Athyriaceae. Mae larfa'r pryfyn Lepidoptera'n hoff iawn o fwyta'i ddail.

Mae'n ffurfio clystrau mawr mewn coetiroedd llaith, ar gloddiau a llethrau ac mae'n eitha cyffredin yng ngwledydd Prydain. Gall dyfu hyd at 1.5 m. Gwyrdd golau yw ei liw, ac mae'r dail wedi'u rhannu fel pluen ddwywaith. Aeddfeda'r sborangia yn yr hydref.

Gwahanol fathau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Llyfr Natur Iolo | Paul Sterry | Addasiad gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones | Gwasg Carreg Galch | 12/9/2012 | Cymraeg