Rhaeadr Victoria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

bawd|Rhaeadr Victoria Rhaeadr ar afon Zambezi yn rhan ddeheuol Affrica yw Rhaeadr Victoria. Mae'n un o reaeadrau mwyaf y byd; er nad Rheadr Victoria yw'r uchaf na'r lletaf yn y byd, yma y ceir yr arwynebedd mwyaf o ddŵr yn disgyn. Mae'n 1708 medr o led a 108 medr o uchder.[1]

Saif ar y ffîn rhwng Sambia a Simbabwe. Yr enw lleol arno yw Mosi-oa-Tunya ("y mwg sy'n taranu"). Rhoddwyd yr enw "Rhaeadr Victoria" arno gan David Livingstone, yr Ewropead cyntaf i'w weld.[1] Dynodwyd y rhaeadr a'i amgylchedd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 "Victoria Falls". 1890-1925. http://www.wdl.org/en/item/550. Adalwyd 2013-06-01.