Refferendwm y Bleidlais Amgen i'r Deyrnas Unedig, 2011

Oddi ar Wicipedia

Cynhaliwyd refferendwm y Bleidlais Amgen i'r Deyrnas Unedig ar 5 Mai 2011 lle bwrwyd pleidlais dros neu yn erbyn newid y dull presennol o bleidleisio. Ar yr un pryd ag etholiad y Cynulliad 2011 cafwyd pleidlais a ddylai Aelodau Seneddol Tŷ'r Cyffredin gael eu hethol trwy system bleidleisio y bleidlais amgen (AV), neu i aros gyda system y cyntaf i'r felin (FPTP).

Cytunwyd ar y refferendwm fel rhan o Gytundeb Clymblaid y Ceidwadwyr - Democratiaid Rhyddfrydol a luniwyd ar ôl etholiad cyffredinol 2010. Cyflwynwyd y syniad o refferendwm gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf 2010 a chafodd ei ddyrchafu ar 16 Chwefror 2011 fel rhan o'r Ddeddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011. Dyma oedd yr ail dro yn unig i refferendwm gael ei chynnal yn holl wledydd y Deyrnas Unedig yn hanes gwledydd Prydain, gyda'r tro cyntaf yn cael ei chynnal yn refferendwm y Gymuned Ewropeaidd ym 1975. Fodd bynnag, dyma oedd y refferendwm cenedlaethol cyntaf nad oedd yn ymgynghorol yn unig; roedd yn refferendwm ôl-ddeddfwriaethol, yn gyfreithiol ar ran y llywodraeth, beth bynnag fo'r canlyniad.[1]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Cyfrif o'r pleidleisiau yn ôl "Rhanbarth". Pinc: Yn erbyn; Melyn: O blaid. Ni phleidleisiodd yr un rhanbarth o blaid newid y system.

Yng Nghymru pleidleisiodd 325,349 o blaid newid a 616,307 yn erbyn. Ledled gwledydd Prydain pleidleisiodd 69% yn erbyn unrhyw newid a 31% o blaid.

Pleidleisiodd 0.95 miliwn o bobl yng Nghymru, sef 41.7% oedd â'r hawl i bleidleisio, o'i gymharu â 9.8 miliwn (41.8%) ledled gwledydd Prydain. Yn ôl sawl sylwebydd gwleidyddol, roedd pobl yn pleidleidio yn erbyn Nick Clegg.[2]

Y pleidiau gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Barn y pleidiau gwleidyddol ynglŷn â'r Refferendwm Dros Pleidlais Amgen (Ie) Dim barn swyddogol Dros system bresennol "y cyntaf i'r felin" (Na)
Pleidiau sy'n cael eu cynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin Y Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Genedlaethol yr Alban
Sinn Féin
Plaid Cymru
SDLP
Plaid Werdd Cymru a Lloegr
Alliance Party of Northern Ireland
Y Blaid Lafur Y Blaid Geidwadol
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
Pleidiau a gynrychiolir yn Senedd Ewrop neu gynulliad rhanbarthol UKIP
Plaid Werdd yr Alban
BNP
Plaid Unoliaethol Ulster
Plaid Werdd Gogledd Iwerddon
Pleidiau llai Y Blaid Ryddfrydol
Democratiaid Lloegr
Y Blaid Gristnogol
Cyngrair Cristnogion (DU)
Plaid y Môr Ladron
United Kingdom Libertarian Party
Y Blaid Dros Barch
Plaid Sosialaidd Gwledydd Prydain
Traditional Unionist Voice
Plaid Gomiwnyddol Gwledydd Prydain
Socialist Party of England and Wales

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Referendum on voting system goes ahead after Lords vote". BBC News. 17 February 2011. Cyrchwyd 17 February 2011.
  2. Gwefan Gymraeg y BBC