Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Refferendwm annibyniaeth i'r Alban
Dydd Iau, 18 Medi 2014
A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?
Canlyniadau
Ie neu Na Pleidleisiau Canran
Yes check.svg Ie 1,617,989 700144700000000000044.7%
X mark.svg Na 2,001,926 700155300000000000055.3%
Pleidl. dilys 3,619,915 700199910000000000099.91%
Annilys 3,429 69989000000000000000.09%
Cyfanswm y pleidleisiau 3,623,344 100.00%
Pleidleiswyr 700184590000000000084.59%
Etholaeth 4,283,392
Y canlyniadau yn ôl Cynghorau sir
Scottish independence referendum results.png
     Ie     Na

Ar 18 Medi 2014 cynhaliodd Llywodraeth yr Alban refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Roedd y refferendwm yn gofyn i etholwyr yr Alban: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"[1] (Saesneg: Should Scotland be an independent country?).[2] Roedd hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,[3] yn dilyn papur a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2013 a oedd yn gosod y seiliau.[4] ac a gymeradwywyd gan Senedd yr Alban ar 14 Tachwedd 2013 ac yn Llundain ar 17 Rhagfyr 2013.[5] Roedd angen mwyafrif (h.y. dros 50%) o'r pleidleisiau i annibyniaeth gael ei wireddu.[6][7] Canlyniad y referendwm oedd na ddylai'r Alban fod yn annibynol gyda 1,617,989 (44.7%) o blaid a 2,001,926 (55.3%) yn erbyn. Pleidleisiodd 71% o bobl ifanc 16-17 oed dros annibyniaeth.

Hyd at 12 diwrnod cyn y refferendwm, roedd y poliau'n nodi fod y garfan dros annibyniaeth tua chwe phwynt ar ôl y Na, ond ar y 6ed o Fedi cyhoeddwyd pôl piniwn y Times a oedd yn dangos fod 51% o'r etholwyr yn bwriadu pleidleisio dros annibyniaeth.[8] Mewn ymateb i hyn cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai'r Alban yn derbyn mwy o annibyniaeth a hawliau megis codi trethi, waeth beth fydd canlyniad i hyn. Yr un diwrnod, mynnodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y dylid rhoi'r un hawliau i Gymru.[9] Ymateb arall i hyn oedd i nifer o wleidyddion Saesneg gan gynnwys David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymweld â'r Alban er mwyn ceisio dylanwadu ar y bleidlais.

Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, gyda'i Ddirprwy Nicola Sturgeon, yn Awst 2007
Baner yr Alban ar y chwith a Jac yr Undeb, Lloegr , ar y dde.
Pôl piniwn o'r holl bolau
Graff o holiaduron yn rhagweld sut oedd yr etholaeth yn bwriadu pleidleisio

Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban drwy fesur cyfreithiol i ostwng oed pleidleisio o 18 i 16 oed, fel rhan o bolisi'r SNP dros safoni'r oedran hwn ym mhob etholiad yn yr Alban.[10][11] Cytunodd y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Werdd gyda'r mesur.[12][13]

Yn Ionawr 2012, arweiniodd Elaine Murray, Aelod o'r Blaid Lafur, ymgyrch yn annog y dylid rhoi'r hawl i'r 800,000 o Albanwyr sy'n byw y tu allan i'r Alban i gael yr hawl i bleidleisio. Gwrthwynebwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban, a ddadleuodd y byddai'n anodd iawn i weinyddu hyn ac y byddai Adran Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn cwestiynu cyfreithlondeb refferendwm sydd heb ei seilio ar ffiniau daearyddol.[14]

Os yw'r mwyafrif yn erbyn annibyniaeth yna bydd yr Alban yn parhau o dan y drefn bresennol, yn rhan o'r Deyrnas Unedig,[6][7] ond byddai rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i'r Alban o Lundain, fel rhan o Ddeddfwriaeth yr Alban 2012.[6][7]

Yr ymgyrch[golygu]

Lansiwyd yr ymgyrch dros annibyniaeth ar y 25ain o Fai 2014.[15] Y Prif Weithredwr yw Blair Jenkins,[15] cyn Gyfarwyddwr Darlledu Teledu'r Alban (STV) a Phennaeth Newyddion a Materion Cyfoes STV a BBC yr Alban. Cefnogir yr ymgyrch gan yr SNP,[15] Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Sosialaidd yr Alban.[16] Erbyn 22 Awst 2014 roedd dros un filiwn o Albanwyr wedi arwyddo deiseb yn galw am Annibyniaeth.[17]

Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth (Better Together) ar 25 Mehefin 2012[18] dan arweinyddiaeth Alistair Darling, cyn Ganghellor y Trysorlys, ac fe'u cefnogir gan y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.[18]

Gwnaed sylw yn Golwg gan Dylan Iorwerth (Golygydd Gyfarwyddwr) mai dim ond rhesymau economaidd oedd gan y garfan yn erbyn annibyniaeth; Y rhyfeddod ydi'r diffyg sôn am genedligrwydd a hanes a diwylliant. meddai.[19]

Y broses[golygu]

Cychwynwyd pleidleisio ar 27 Awst 2014 pan dderbyniodd pleidleiswyr post eu ffurflenni pleidleisio. Cofrestrodd 680,235 ar gyfer hyn, sef 20% yn uwch nag ym Mawrth 2014.[20] Arestiwyd un dyn 28 oed o Drumchapel am geisio gwerthu ei ffurflen bleidleisio ar eBay.[21] Y diwrnod olaf y gellid cofrestru ar gyfer y refferendwm oedd yr ail o Fedi.[20]

Dadlau cyhoeddus[golygu]

Wedi llawer o negydu rhwng y ddwy garfan, trefnwyd dadl deledu rhwng y ddau arweinydd Salmond a Darling[22] ar raglen o'r enw Salmond & Darling: The Debate, a chafodd ei darlledu ar STV ar 5 Awst 2014. Cynhaliwyd ail ddadl rhyngddynt ar 25 o Awst 2014, o'r enw Scotland Decides: Salmond versus Darling ac fe'i darlledwyd ar BBC One Scotland a BBC 2 ar gyfer gweddill gwledydd Prydain.[23][24] Ystyriwyd mai Alastair Darling enillodd y ddadl deledu gyntaf gyda 53% o'r cyhoedd yn credu mai Darling a ddaeth allan gryfaf[25]. Fodd bynnag yn yr ail ddadl deledu credwyd mai Alec Salmond lwyddodd i berswadio'r cyhoedd orau.[26]

Canlyniad[golygu]

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi fesul un o 32 Awdurdodau unedol yr Alban. Swydd Clackmannan oedd y cyntaf i gyhoeddi eu canlyniadau.

Fesul rhanbarth[golygu]

Etholaeth Nifer o Blaid (Ie) Nifer yn Erbyn (Na) O Blaid (Ie) (%) Yn Erbyn (Na) (%) Nifer Balodau* Cynulliad (%)
Dinas Aberdeen 143,664 81.7
Swydd Aberdeen 87.2
Angus 80,300 85.7
Argyll a Bute
Swydd Clackmannan 16,350 19,036 46.2 53.8 35,410 88.6
Dumfries a Galloway
Dinas Dundee 53,620 39,880 57.35 42.65 93,592 78.8
Dwyrain Swydd Ayr 84,252 84.5
Dwyrain Swydd Dunbarton 79,011 91.0
Dwyrain Lothian 27,467 44,283 71,798 87.6
Dwyrain Swydd Renfrew 66,021 90.4
Dinas Caeredin
Falkirk 50,489 58,030 46.53 53.47 108,626 88.7
Fife
Dinas Glasgow 364,664 75.0
Yr Ucheldir
Inverclyde 27,243 27,329 49.92 50.08 54,601 87.4
Midlothian 26,370 33,972 43.70 56.30 60,396 86.8
Moray 85.4
Gogledd Swydd Ayr
Gogledd Swydd Lanark
Perth a Kinross 104,285 86.9
Swydd Renfrew 117,612 87.3
Gororau'r Alban
De Swydd Ayr 81,715 86.1
De Swydd Lanark 22,937 85.3
Stirling 25,010 37,153 40.23 59.77 62,225 90.1
Gorllewin Swydd Dunbarton 33,720 28,776 53.96 46.04 62,532 87.9
Gorllewin Lothian
Na h-Eileanan Siar (Ynysoedd y Gorllewin) 9,195 10,544 46.58 53.42 19,758 86.2
Ynysoedd Erch 4,833 10,004 32.8 67.2 14,887 83.7
Ynysoedd Shetland 5,669 9,951 36.29 63.71 15,635 84.4
CYFANSWM

Roedd 4.2 miliwn wedi cofrestr (97% o'r etholwyr), gyda 32 sir yn cyfri'r pleidleisiau.

Dywedodd Adam Price ar raglen S4C a BBC Radio Cymru ar ddiwrnod y refferendwm: "Mae annibyniaeth yr Alban yn mynd i ddigwydd. Mae yna genhedlaeth o bobl ifanc sydd wedi cael eu gwleidyddu a dydyn nhw ddim yn mynd i dderbyn canlyniad na, felly mi ddaw yn ôl."[27]

* Gan cynnwys baledau wedi'i sbwylio, ac felly gall y nifer fod yn fwy na chyfanswm y pleidleisiau.

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Newid cwestiwn refferendwm annibyniaeth yr Alban. Golwg360 (30 Ionawr 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
  2.  Q&A: Scottish independence referendum. BBC (15 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
  3. "Agreement between the United Kingdom Government and the Scottish Government on a referendum on independence for Scotland" (PDF). 15 Hydref 2012. http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20130109092234/http://www.number10.gov.uk/wp-content/uploads/2012/10/Agreement-final-for-signing.pdf. Adalwyd Mai 2013. 
  4. "Response to referendum consultation". Scotland.gov.uk. http://www.scotland.gov.uk/News/Releases/2012/05/referendum-consultation11052012. Adalwyd 11 Hydref 2012. 
  5. "Scottish Independence Referendum Bill". Scottish.parliament.uk. http://www.scottish.parliament.uk/parliamentarybusiness/Bills/61076.aspx. Adalwyd 2014-01-31. 
  6. 6.0 6.1 6.2 "Scottish independence referendum". www.gov.uk. UK Government. https://www.gov.uk/government/topical-events/scottish-independence-referendum/about. Adalwyd 29 Mai 2014. 
  7. 7.0 7.1 7.2 "Scottish independence: Post-referendum agreement reached". BBC News (BBC). 18 Mehefin 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-27906062. Adalwyd 18 Mehefin 2014. 
  8. Gwefan YouGov; adalwyd 7 Medi 2014
  9. Gwefan y BBC; adalwyd 7 Medi 2014
  10. "Viewpoints: Can 16- and-17-year olds be trusted with the vote?". BBC News (BBC). 14 October 2012. http://www.bbc.co.uk/news/uk-19908031. Adalwyd 14 Hydref 2012. 
  11. Macdonnell, Hamish (17 Medi 2011). "16-year-olds likely to get the vote on Union split". The Times Scotland (Llundain: Times Newspapers Limited). http://www.thetimes.co.uk/tto/news/uk/scotland/article3167034.ece. Adalwyd 18 Medi 2011. 
  12. "Scottish independence: Bill to lower voting age lodged". BBC News. 12 Mawrth 2013. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-21741448. Adalwyd 31 Rhagfyr 2013. 
  13. "Scottish independence: Referendum voting age bill approved by MSPs". BBC News. 27 Mehefin 2013. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-23074572. Adalwyd 31 Rhagfyr 2013. 
  14. "Scottish independence: SNP dismisses ex-pat voting call". BBC News (BBC). 18 Ionawr 2012. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-16607480. Adalwyd 19 Ionawr 2012. 
  15. 15.0 15.1 15.2 "Scottish independence: One million Scots urged to sign 'yes' declaration". BBC News (BBC). 25 Mai 2012. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-18162832. Adalwyd 18 Gorffennaf 2012. 
  16. "Scottish independence: Greens join Yes Scotland campaign". BBC News (BBC). 6 Hydref 2012. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-19858857. Adalwyd 7 Hydref 2012. 
  17. "Scottish independence: Yes declaration hits million target". BBC News (BBC). 22 Awst 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-28894313. Adalwyd 22 Awst 2014. 
  18. 18.0 18.1 "Scottish independence: Alistair Darling warns of 'no way back'". BBC News (BBC). 25 Mehefin 2012. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-18572750. Adalwyd 18 Gorffennaf 2012. 
  19. [Golwg; 28 Awst, 2014; tud 8
  20. 20.0 20.1 . BBC. 26 Awst 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28741264. Adalwyd 29 Awst 2014. 
  21. "BBC News - Scottish independence: Man arrested after votes 'for sale' on eBay". BBC News. 30 Awst 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28996416. Adalwyd 30 Awst 2014. 
  22. "Scottish independence: STV confirm Darling and Salmond TV debate date". BBC News (BBC). 9 Gorffennaf 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28238151. Adalwyd 9 Gorffennaf 2014. 
  23. "Scottish independence: BBC confirms Salmond-Darling debate". BBC News. BBC. 13 Awst 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28780811. Adalwyd 13 Awst 2014. 
  24. "Scottish independence: Salmond and Darling clash in heated TV debate". BBC News. BBC. 25 Awst 2014. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28929057. Adalwyd 25 Awst 2014. 
  25. (Saesneg) New poll: 53% think Darling won TV debate, 28% back Salmond, 19% undecided. Herald Scotland (9 Awst 2014). Adalwyd ar 6 Medi 2014.
  26. {Dyf gwe |url=http://uk.reuters.com/article/2014/08/28/uk-scotland-independence-poll-idUKKBN0GS2SU20140828 |teitl=Scotland's pro-independence campaign gains on final TV debate - poll |awdur= |dyddiad= 29 Awst 2014 |gwaith= |cyhoeddwr= Reuters |dyddiadcyrchiad=6 Medi 2014 |iaith= Saesneg}}
  27. Cymru Fyw, BBC; adalwyd 19 Medi 2014.

Dolen allanol[golygu]