Refferendwm annibyniaeth Ynysoedd Ffaröe, 1946

Oddi ar Wicipedia

Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth Ynysoedd Ffaro oddi ar Denmarc ar 14 Medi 1946. Daeth hyn yn sgîl datganiad Gwlad yr Iâ (gwlad arall a reolwyd gan Ddenmarc) yn weriniaeth annibynnol yn 1944. Yn ychwanegol at hyn, wedi goresgyniad Denmarc gan yr Almaen yn 1940, torrwyd y cysylltiad rhwng Ynysoedd Ffaro â Llywodraeth Denmarc a bu Ynysoedd Ffaro i bob pwrpas yn hunanlywodraethol ac o dan reolaeth filwrol lluoedd Prydain a'r Cynghreiriaid am weddill yr Ail Ryfel Byd.

Mae canlyniad y Refferendwm yn dal i fwrw ei gysgod dros yr Ynysoedd ddegawdau wedi'r digwyddiad gyda gwleidyddiaeth y wlad yn dal i seilio i raddau helaeth ar agweddau pleidiau at annibyniaeth. Mae cryfder barn yr Ynysoedd ar faterion hunanlywodraethol i'w gweld yn y modd mae'r Ynysoedd yn dal yn rhan o Frenhiniaeth Denmarc gan ddanfon dau aelod seneddol i senedd-dy, Denmarc yn Copenhagen, ond, yn wahanol i Ddenmarc, nid yw'r Ynysoedd yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Canlyniad[golygu | golygu cod]

Refferendwm Annibyniaeth Ffaro, 1946
Dewis Pleidleisiau %
Referendum passed Ydy / Ie 5,660 50.73
No 5,499 49.27
Pleidleisiau cymwys 11,159 95.87
Pleidleisiau anghymwys 481 4.13
Cyfanswm pleidleisiau 11,640 100.00
Etholwyr cofrestredig a nifer angenrheidiol 17,216 67.52
Source: Direct Democracy

Canlyniad fesul Ynys[golygu | golygu cod]

Ynys Parhau Uniad â Denmarc Gwadael Denmarc Pleidleisiau annilys Cyfanswm Pleidlais Nifer bleidleisiodd
Norðoyar 398 28.1% 954 67.3% 65 4.6% 1,417 2,220 63.8%
Eysturoy 1,372 54.4% 1,051 41.6% 101 4.0% 2,524 3,854 65.5%
Norðurstreymoy 544 45.2% 621 51.6% 38 3.2% 1,203 1,679 71.6%
Vágar 434 40.0% 616 56.7% 36 3.3% 1,086 1,485 73.1%
Suðurstreymoy 673 31.7% 1,309 61.7% 138 6.5% 2,120 3,323 63.8%
Sandoy 286 36.5% 465 59.4% 32 4.1% 783 1,053 74.4%
Suðuroy 1,783 71.6% 640 25.7% 68 2.7% 2,491 3,602 69,2%
Cyfanswm 5,490 47.2% 5,656 48.7% 478 4.1% 11,624 17,216 67.5%
Canlyniad fesul Ynys:      O blaid yr Undeb      O blaid Annibyniaeth

Ôl-refferendwm[golygu | golygu cod]

Canlyniad y Refferendwm oedd 50.73% o blaid a 49.27% yn erbyn.[1] Cyhoeddodd Ynysoedd Ffaro ei hannibyniaeth ar 18 Medi 1946; ond serch hynny, cyhoeddwyd fod y refferendwm yn annilys gan lywodraeth Denmarc ar 20 Medi ar y sail nad oedd mwyafrif pleidleiswyr yr Ynysoedd wedi cefnogi annibyniaeth ac ar 24 Medi diddymwyd senedd Ynysoedd Ffaroe, y Løgting gan Frenin Denmarc, Christian X.[2][3] Diddymwyd y Løgting ar 8 Tachwedd a dilynwyd hyn gan etholiad 1946 Ynysoedd Ffaro lle enillodd y pleidlau oedd o blaid annibyniaeth lawn 5,396 pleidlais yn erbyn 7,488 y pleidiau oedd yn erbyn annibyniaeth.[4] Fel ymateb i'r galw cynyddol dros hunan-lywodraeth ac annibyniaeth, fe gytunodd Denmarc i stadud hunanlywodraeth ar 30 Mawrth 1948.[2]

Dyfodol Cyfansoddiadol yr Ynysoedd[golygu | golygu cod]

Ar 2 Chwefror 2017 cyhoeddodd Llywodraeth y Ffaro eu bod am gynnal Refferendwm yn 2018 ar ragor o hunanlywodraeth[5] (er, nid annibyniaeth) ar 25 Ebrill 2018. Bydd cwestiwn y Refferendwm yn seiliedig ar gytundeb o fewn y Llywodraeth a'r farn gyhoeddus ar y pwerau hoffai'r Ynysoedd eu cael. Cynhelir y refferendwm ar 25 Ebrill 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Faroe Islands, 14 September 1946: Status Direct Democracy (Almaeneg)
  2. 2.0 2.1 Faeroe Islands World Statesman
  3. Steining, Jørgen (1953). "Rigsdagen og Færøerne". In Bomholt, Jul.; Fabricius, Knud; Hjelholt, Holger; Mackeprang, M.; Møller Andr. (eds.) (gol.). Den danske rigsdag 1849-1949 bind VI (yn Danish). Copenhagen: J. H. Schultz Forlag. t. 187.CS1 maint: extra text: editors list (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Steining, t. 188.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-19. Cyrchwyd 2017-06-26.