Rees Thomas (1882-1926)
Oddi ar Wicipedia
Chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymreig oedd Rees Thomas (1882 - 14 Mehefin 1926).
Ganed ef yng Nghil-y-coed, Sir Fynwy. Bu'n chwareae fel blaenasgellwr ac fel wythwr i Glwb Rygbi Pontypŵl, ar lefel sirol dros sir Fynwy ac enillodd wyth cap dros Gymru rhwng 1909 a 1913. Yn ystod y cyfnod yma, roedd mewn timau a enillodd y Goron Driphlyg ddwywaith.