Rebecca Romero

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rebecca Romero
Manylion Personol
Enw Llawn Rebecca Romero
Dyddiad geni (1980-01-24)

Ionawr 24, 1980 (age 33)

Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Taldra 1.83
Pwysau 78kg
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Ffordd a Trac
Rôl Reidiwr
Math o reidiwr Treial Amser a Pursuit ar y trac
Tîm(au) Proffesiynol
2007 scienceinsport.com
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Golygwyd ddiwethaf ar:
9 Hydref 2007

Seiclwraig trac a chyn rhwyfwr ydy Rebecca Romero (ganwyd 24 Ionawr 1980, Twickenham, Llundain Fwyaf),[1] a enillodd fedal arian yn rhwyfo quadruple sculls Gemau Olympaidd 2004 yn Athen. Y flwyddyn ganlynol roedd hi'n aelod o dîm Prydain a enillodd Pencampwriaethau'r Byd quadruple sculls yn Gifu, Japan.

Yn 2006, penderfynodd Romero ymddeol o'r byd rhwyfo, yn rhannol oherwydd problemau gyda'i chefn, a dechreuodd seiclo gyda'r bwriad o ennill ail fedal Olympaidd mewn chwaraeon gwahanol.

Yn Rhagfyr 2006, enillodd fedal arian yng nghymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI, ei ras seiclo rhyngwladol gyntaf, gan golli allan ar yr aur i'w chyd Brydeinwraig, Wendy Houvenhagel. Cystadlodd Romero a Houvenhagel erbyn ei gilydd unwaith eto yn y rownd derfynol yng nghymal Manceinion yn Ebrill 2007.[2]

Enillodd fedal ym Mhencampwriaethau seiclo'r Byd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2007 gydag arian yn y Pursuit.[3] Fe aeth cam ymhellach ym Mehncampwriaethau'r Byd 2008, gan ennill y fedal aur, a medal aur ychwanegol fel rhan o dîm pursuit merched gan osod record newydd y byd yn y broses mewn amser o 3:22.415.[4]

Mae Rebecca yn byw yn High Wycombe, Swydd Buckingham.

Cynnwys

Canlyniadau [golygu]

Rhwyfo [golygu]

Gemau Olympaidd
2004 – Silver, Quadruple Sculls (gyda Frances Houghton, Debbie Flood & Alison Mowbray)
Pencampwriaethau Rhwyfo'r Byd
2005 – 1af, Quadruple Sculls (gyda Katherine Grainger, Frances Houghton & Sarah Winkless)
2003 – 4ydd, Double Sculls
2002 – 5ed, Quadruple Sculls
2001 – 5ed, Quadruple Sculls
Pencampwriaethau'r Byd Odan 23
2000 – 1af, 2-
1999 – 4ydd, 1x

Seiclo [golygu]

2007
1af Baner Prydain Fawr Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
2il Pursuit, Cymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI
2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
2il Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Baner Prydain Fawr Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit Tîm (gyda Joanna Rowsell a Wendy Houvenhagel), Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Proffil ar wefan swyddogol Gemau Olympaidd Prydain
  2. Pendleton sets new British record BBC 24 Chwefror 2007
  3. Pursuit quartet and Hoy take gold BBC 30 Mawrth 2007
  4. World Track Cycling: Rebecca Romero record, Brendan Gallagher 27 Mawrth 2008

Dolenni Allanol [golygu]