Raymond Davies Hughes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awyrennwr yr Awyrlu Brenhinol o Gymro oedd Raymond Davies Hughes (11 Awst 1923 - 4 Ebrill 1999) a wnaeth darlledu propaganda ar gyfer yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Daeth o'r Wyddgrug. Wedi i'w awyren gwympo dros yr Almaen ym 1943 cafodd ei ddal gan y Natsïaid a chytunodd i ddarlledu propaganda trwy gyfrwng y Gymraeg yn targedu lluoedd Cymreig oedd yn ymladd yn yr Ymgyrch Eidalaidd o Ionawr hyd Fawrth 1944. Cafodd ei ddanfon yn ôl i wersyll carcharorion rhyfel cyn cael ei ryddhau gan luoedd Sofietaidd ym mis Ebrill 1945. Cafodd ei arestio am gynorthwyo'r gelyn yn wirfoddol a bu cwrt-marsial yn ei erbyn yn Awst 1945, a phlediodd yn ddieuog i 11 o gyhuddiadau. Cafwyd yn euog o bump ohonynt a dedfrydwyd i bum mlynedd o lafur caled, a gafodd ei leihau i ddwy mlynedd.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.