Ray Winstone
Oddi ar Wicipedia
Mae Raymond Andrew "Ray" Winstone, Jr. (ganed 19 Chwefror, 1957) yn actor ffilm a theledu Seisnig, Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rôlau dynion garw, gan ddechrau chwarae rhannau felly yn y ffilm Scum ym 1979. Yn fwy diweddar, dechreuodd gynhyrchu ffilmiau. Ymysg y ffilmiau mae ef wedi serennu ynddynt, mae Nil by Mouth, Cold Mountain, King Arthur, The Proposition, The Departed, Beowulf ac Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull.