Ratko Mladić
Oddi ar Wicipedia
Cyn-Bennaeth Staff Byddin Republika Srpska yn ystod Rhyfel Bosnia yw Ratko Mladić (Serbeg: Ратко Младић, ganwyd 12 Mawrth 1943). Ym 1995 cafodd ei dditio gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia (ICTY) am hil-laddiad, troseddau rhyfel, a throseddau yn erbyn dynoliaeth. Cafodd ei arestio gan luoedd diogelwch Serbia ar 26 Mai 2011 yn Lazarevo, Serbia.