RateMyTeachers

Oddi ar Wicipedia

Gwefan Saesneg ddadleuol yw RateMyTeachers, sy'n rhoi'r cyfle i ddisgyblion gyhoeddi barnau am eu hathrawon. Mae'r wefan yn gweithredu yn y DU, UDA, Canada, Gweriniaeth Iwerddon, Awstralia a Seland Newydd. Mae dros filiwn a hanner o athrawon wedi cael eu graddio ar y wefan, o dan gategorïau fel "Eglurder", "Cynorthwyoldeb" a "Rhwyddineb" - defnyddir y ddau gategori cyntaf o'r rhain er mwyn rhoi sgôr ar gyfer pob athro. Mae llawer o ysgolion yn atal cysylltiadau at RateMyTeachers o'u rhwydweithiau cyfrifiadurol.

Rheolau[golygu | golygu cod]

Mae nifer o reolau am ba sylwadau sy'n waharddedig (dim sylwadau rhywiol, ac yn y blaen). Yn eu mysg, bydd sylwadau'n cael eu dileu os nad ydynt yn yr iaith Saesneg (oni bai fod y sgriniwr yn rhugl yn yr iaith honno a bod hon yn iaith yr ardal).

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Beirniadwyd y wefan yn 2007 gan Alan Johnson, tra roedd yn Weinidog Addysg Uwchradd yn Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ble cyhuddodd o y wefan o gyfranu at seibr-fwlio.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Ban cyber-bullying clips, Johnson to urge websites. The Guardian (10 Ebrill 2007).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]