Ras Paris i Roubaix

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ras feicio ffordd broffesiynol undydd yng Ngogledd Ffrainc ger y ffin â Gwlad Belg yw Ras Paris i Roubaix. O'i dechrau ym 1896 tan 1967 roedd yn dechrau ym Mharis ac yn gorffen yn Roubaix ond ers 1968 mae'r ras wedi dechrau yn Compiègne, rhyw 60 cilometr i'r gogledd-ddwyrain o ganol Paris, ond mae'n terfynu o hyd yn Roubaix. Mae'n enwog am ei tirlun garw ac anodd ac yn cael ei chyfrif yn un o glasuron Ewrop ac mae yn cyfrannu at raddio byd UCI. Trefnir gan Amaury Sport Organisation mis Ebrill bob blwyddyn.

Cycling (road) pictogram.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seiclo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.