Ramones
| Ramones | |
|---|---|
| Ramones yn perfformio yn 1980 | |
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Tarddiad | Forest Hills, Queens, Dinas Efrog Newydd, UDA |
| Cerddoriaeth | Roc bync |
| Blynyddoedd | 1974–1996 |
| Label(i) recordio | Sire (UDA & DU, 1976–1992) Radioactive (UDA, 1992–1996) Chrysalis (DU, 1992–1996) |
| Gwefan | www.ramones.com |
| Cyn aelodau | |
| Dee Dee Ramone Johnny Ramone Joey Ramone Tommy Ramone Marky Ramone Richie Ramone Elvis Ramone (Clem Burke) C.J. Ramone |
|
Band roc Americanaidd a ystyrid yn aml fel y grŵp roc bync gyntaf oedd y Ramones.[1][2] Ffurfiodd y band yn Forest Hills, Queens, Dinas Efrog Newydd, yn 1974,[2] a mabwysiadodd pob aelod enw perfformio gyda'r cyfenw "Ramone", er nad oeddent yn perthyn i'w gilydd. Perfformiant 2263 o gyngherddau tra buont yn teithio a pherfformio bron heb egwyl am 22 o flynyddoedd.[2] Yn 1996, ar ôl taith berfformio gyda'r ŵyl gerddorol Lollapalooza, canodd y band eu sioe olaf ac yna dadfyddinant. O fewn ychydig mwy nag wyth mlynedd wedi iddynt torri lan, roedd tri aelod cychwynnol y band—y prif ganwr Joey Ramone, y gitarydd Johnny Ramone, a'r gitarydd bas Dee Dee Ramone—wedi marw.[3]
Roedd y Ramones yn ddylanwad mawr ar y mudiad roc bync yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain, er nad oedd eu llwyddiant masnachol yn eithriadol. Eu hunig record gyda digon o werthiannau yn yr UD i dderbyn tystysgrif aur oedd yr albwm dethol Ramones Mania.[4] Cynyddodd gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y band dros y blynyddoedd, a heddiw fe gynrychiolant yn aml mewn nifer o asesiadau o'r gerddoriaeth roc orau erioed, megis rhestrau Rolling Stone o'r 50 Artist Gorau Erioed[5] a'r 25 Albwm Byw Gorau Erioed,[6] rhestr VH1 o'r 100 Artist Roc Galed Gorau,[7] a rhestr Mojo o'r 100 Albwm Gorau.[8] Yn 2002, fe gafodd y Ramones eu hethol fel yr ail fand roc a rôl gorau erioed gan y cylchgrawn Spin, gan golli'r prif safle i The Beatles.[9] Ar 18 Mawrth, 2002, fe gafodd y Ramones—gan gynnwys y tri sylfaenydd a'r drymwyr Marky a Tommy Ramone—eu derbyn i Neuadd Fri Roc a Rôl.[2][10]
Cynnwys |
[golygu] Aelodau
- Dee Dee Ramone – gitâr fas, llais (1974–1989)
- Johnny Ramone – gitâr (1974–1996)
- Joey Ramone – prif lais (1974–1996)
- Tommy Ramone – drymiau (1974–1978)
- Marky Ramone – drymiau (1978–1983, 1987–1996)
- Richie Ramone – drymiau, llais (1983–1987)
- Elvis Ramone (Clem Burke) – drymiau (1987)
- C. J. Ramone – gitâr fas, llais (1989–1996)
| (1974) |
|
|---|---|
| (1974) |
|
| (1974–1978) |
|
| (1978–1983) |
|
| (1983–1987) |
|
| (1987) |
|
| (1987–1989) |
|
| (1989–1996) |
|
[golygu] Disgyddiaeth
[golygu] Albymau stiwdio
| Teitl | Label | Rhyddhawyd | Safleoedd siartiau uchaf | Aelodau | |
|---|---|---|---|---|---|
| UD | DU | ||||
| Ramones | Sire | 23 Ebrill, 1976 | 111 | — | Joey, Johnny, Dee Dee, Tommy |
| Leave Home | Sire | 10 Ionawr, 1977 | 148 | 45 | |
| Rocket to Russia | Sire | 4 Tachwedd, 1977 | 49 | 60 | |
| Road to Ruin | Sire | 22 Medi, 1978 | 103 | 32 | Joey, Johnny, Dee Dee, Marky |
| End of the Century | Sire | 4 Chwefror, 1980 | 44 | 14 | |
| Pleasant Dreams | Sire | 29 Gorffennaf, 1981 | 58 | — | |
| Subterranean Jungle | Sire | Chwefror, 1983 | 83 | — | |
| Too Tough to Die | Sire | Chwefror, 1984 | 172 | 63 | Joey, Johnny, Dee Dee, Richie |
| Animal Boy | Sire | Mai, 1986 | 143 | 38 | |
| Halfway to Sanity | Sire | 15 Medi, 1987 | 172 | 78 | |
| Brain Drain | Sire | 18 Mai, 1989 | 122 | 75 | Joey, Johnny, Dee Dee, Marky |
| Mondo Bizarro | Radioactive | 1 Medi, 1992 | 190 | 87 | Joey, Johnny, C. J., Marky |
| Acid Eaters | Radioactive | Rhagfyr, 1993 | 179 | — | |
| ¡Adios Amigos! | Radioactive | 18 Gorffennaf, 1995 | 148 | 62 | |
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) The Ramones. MTV.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Ramones. Rock and Roll Hall of Fame + Museum (15 Medi, 2004). Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) The Ramones. MP3.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Ramones Raw Signing & Gold Award Presentation at Tower Records. OsakaPopstar.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) The Immortals: The First Fifty. Rolling Stone. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Rock List: The Twenty-Five Best Live Albums: An unranked collection of incredible shows captured on record, with audio. Rolling Stone. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) 100 Greatest Artists of Hard Rock. VH1.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Mojo Magazine's 100 Greatest Albums (August 1995 Issue). RateYourMusic.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) 50 Greatest Bands Of All Time. Cylchgrawn Spin (Chwefror 2002). Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Vineyard, Jennifer (19 Mawrth, 2002). Vedder Rambles, Green Day Scramble As Ramones Enter Hall. VH1.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y Ramones