Ralph Thomas Hotchkin Griffith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgolhaig Indoleg o dras Cymreig a gofir am ei gyfieithiadau campus o lyfrau'r Veda oedd Ralph Thomas Hotchkin Griffith (25 Mai, 1826 - 1906).

Roedd yn fab i'r Parch R. C. Griffith. Cafodd ei addysg yn Warminster, Uppingham a Choleg y Frenhines, Rhydychen, lle enillodd gradd BA. Ar 24 Tachwedd 1849 cafodd ei ethol i'r Ysgoloriaeth Sansgrit yn y brifysgol honno. O 1854 ymlaen gweithiodd, dysgodd ac astudiodd yn India, e.e. fel pennaeth Coleg Benares. Ymddeolodd yn 1885 i ganolbwyntio ar ei waith ysgolheigaidd.

Ei brif waith oedd cyfieithu'r ysgrythurau Vedig i'r Saesneg. Ond yn ogystal cyfeithiodd sawl gwaith Sansgrit arall, yn cynnwys y Ramayana a'r Kumara Sambhava gan Kalidasa. Ei gampwaith efallai yw ei gyfieithiad o'r Rig Veda sy'n dilyn y testun Sansgrit a sefydlwyd gan Max Müller. Mae ei ddarlleniadau yn tueddu i ddilyn rhai Sayana, ysgolhaig enwog a fu'n brif weinidog yn llys y Brenin Vijaynagar - yn ardal Bellary, Karnataka, heddiw - yn y 14eg ganrif. Cyhoeddodd hefyd argraffiadau o'r Sama Veda, Yajur Veda a'r Atharva Veda.

Llyfryddiaeth[golygu]