Ralph Fiennes
Oddi ar Wicipedia
Mae Ralph Nathaniel Twisleton-Wykeham-Fiennes (ynganer /ˈreɪf ˈfaɪnz/) (ganed 22 Rhagfyr 1962) yn actor Seisnig. Mae ef wedi ymddangos mewn ffilmiau megis Schindler's List, Quiz Show, The English Patient, Oscar and Lucinda, Red Dragon, The Constant Gardener, Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit, a'r ffilmiau Harry Potter. Yn ddiweddar, chwaraeodd ran William Cavendish, 5ed Dug Swydd Dyfnaint yn y ffilm The Duchess.
Ef yw'r unig actor erioed sydd wedi derbyn Gwobr Tony am chwarae Hamlet ar Broadway. Yn 2001, derbyniodd Fiennes Gwobr William Shakespeare o'r Theatr Shakespeare yn Washington, D.C..
Mae Fiennes hefyd yn lysgennad i UNICEF.