Raidió Rí-Rá

Oddi ar Wicipedia
Raidió Rí-Rá
Enghraifft o'r canlynolgorsaf radio Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2008 Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.raidiorira.ie/ Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Raidió Rí-Rá (Radio Helynt) yn 2008 gan fudiad iaith Wyddeleg, Conradh na Gaeilge. Gorsaf 24 awr y dydd sy'n chwarae cerddoriaeth bop y Siartiau Saesneg a hefyd peth Gwyddeleg yw hi. Anelir yr orsaf ar gyfer pobl yn eu harddegau ac ugeiniau. Bychan iawn o siarad sydd ar yr orsaf ond mae hynny o siarad yn yr iaith Wyddeleg.

Lansiwyd yr orsaf yn wreiddiol fel rhan o ddathliadau Seachtain na Gaeilge (Wythnos y Wyddeleg) y 2008. Enw wreiddiol yr orsaf oedd Radió X ond newidiwyd i Radió Rí-Rá yn dilyn cystadleuaeth.

Darlledu[golygu | golygu cod]

Darlledir yr orsaf ar wefan yr orsaf. Amcangyfrifir fod y wefan yn derbyn 35,0000 ymweliad y mis.

Caiff yr orsaf hefyd ei darlledu ar wasanaeth radio digidol DAB yn ardal Dulyn a Loch Garman (Wexford).

Am fis y flwyddyn adeg Seachtain na Gaeilge a gynhelir ym mis Mawrth darlledir yr orsaf ar donfedd FM yn ardaloedd Dulyn, Corc a Gallimh (Galway) a chyn 2011, yn Limeric hefyd.

Gobaith y rheolwyr yw y caiff yr orsaf ei darlledu ar wasanaeth digidol daearol Gweriniaeth Iwerddon, Soarview, yn y dyfodol. Mae Soarview yn cynnwys ac yn darlledu gorsafoedd cynhenid Iwerddon gan gynnwys sianeli teledu a radio y gwasanaeth wladwriaethol, RTÉ. Mae 9 gorsaf radio RTÉ bellach ar Soarview, gan gynnwys yr orsaf Wyddeleg ei hiaith genedlaethol, sef RTÉ Raidió na Gaeltachta.

CDs Ceol[golygu | golygu cod]

Ers 2005 fel rhan o ddathliadau Seatchain na Gaeilge cynhyrchwyd CD o ganeuon pop gan grwpiau Gwyddelig poplogaidd wedi eu cyfieithu i'r Wyddelig. Cynhoeddir y CDs yma o dan enw 'Ceol' ('cerddoriaeth'). Defnyddir a hyrwyddir y CDs yma gan Raidió Rí-Rá. Caiff y CDs yma eu rhoi am ddim ac yn 2011 fe'i cynhwysir o fewn cyhoeddiad o'r papur dyddiol yr Irish Daily Star. Mae'r CDs yn cynnwys fersiynau Gwyddeleg o ganeuon gan grwpiau megis The Corrs.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]