Radio Maldwyn

Oddi ar Wicipedia
Radio Maldwyn
Ardal DdarlleduPowys a'r Gororau
ArwyddairThe Magic 756
Dyddiad Cychwyn1 Gorffennaf 1993 – Tachwedd 2010
PencadlysY Drenewydd
Perchennog Murfin Music International

Gorsaf radio yn gwasanaethu ardal Canolbarth Cymru a'r Gororau oedd Radio Maldwyn. Roedd yn darlledu ar 756AM a 102.1FM a chychwynodd am 07:56 yb ar ddydd iau, 1 Gorffennaf 1993. Penderfynwyd cau yr orsaf yn Nhachwedd 2010.

Ar 15 Rhagfyr 2010, derbyniwyd cais gan Radio Hafren i gymryd trwydded darlledu Radio Maldwyn a chychwynodd ddarlledu yn swyddogol ar ddiwrnod Nadolig 2010 ar 756 AM yn unig.

Ar 11 Awst 2014, am 10.21am cychwynnodd Radio Hafren ddarlledu ar 102.1 FM i'r ddau ganolfan boblogaeth mwyaf (Y Drenewydd a Y Trallwng) yn yr ardal ddarlledu, yn defnyddio amledd a ddyrannwyd yn 2011. Ar ddydd Mercher, 11 Chwefror 2015, caeodd Radio Hafren lawr am nad oedd yn gynaladwy yn ariannol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.