Radio Bro

Oddi ar Wicipedia
Radio Bro
Ardal DdarlleduBro Morgannwg
ArwyddairThe Station That Loves the Vale
Dyddiad Cychwyn31 Mawrth 2009
TonfeddFM: 98.1, 98.4, 100.2, 106.1
PencadlysY Barri
Perchennog
Webcasthttps://broradio.fm/player/index.html
Gwefanbroradio.fm
FformatCymunedol: cerddoriaeth a siarad
IaithSaesneg a Cymraeg

Gorsaf radio cymunedol yw Radio Bro (Bro Radio) sy'n gwasanaethu ardaloedd arfordirol Bro Morgannwg, gan gynnwys Y Barri, Llanilltud Fawr a Penarth.

Mae'n darlledu o stiwdios yng nghanolfan YMCA yn Y Barri ac yng nghanolfan CF61 yn Llanilltud Fawr ar 98.1, 98.4, 100.2 a 106.1 FM ac yr wefan yr orsaf.

Lawnswyd Radio Bro ar ddydd Mawrth 31 Mawrth 2009 yn ardal y Barri ar 98.1 FM. Lansiwyd yr orsaf gan ei gyflwynydd cyntaf, Gareth Sweeney.

Ar wahân i newyddion cenedlaethol a nifer fach o raglenni syndicet ar y penwythnos, cyflwynir a chynhyrchir pob rhaglen yn lleol neu o stwidios yn y Barri a Llanilltud Fawr.

Mae dros 60 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn yr orsaf, ynghyd â chyfarwyddwr gweithrediadau taledig a rheolwr gwerthu a chyllid.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Radio Bro wedi ehangu ei chynnwys golygyddol i roi sylw ychwanegol i rhannau gorllewinol a dwyreiniol y sir trwy nifer o drosglwyddyddion cyfnewid. Mae'r orsaf wedi ehangu ei chwmpas i Fae Caerdydd a'r ardaloedd cyfagos.[1]

Mae'r Radio Bro wedi ennill nifer o wobrau diwydiant, gan gynnwys Gorsaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2020.[2]

Rhaglenni[golygu | golygu cod]

Mae Radio Bro yn darlledu dros 107 awr o raglenni cerddoriaeth a sgyrsiau bob wythnos, gan gynnwys newyddion lleol a materion cyfoes, rhaglenni cylchgrawn, a sioeau cerddoriaeth arbenigol.

Cyflwynwyr[golygu | golygu cod]

  • Matthew Bassett (On the Up)
  • Mike Briscombe (Prynhawn dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul)
  • Naomi Cutler (Prynhawn dydd Mawrth)
  • Ben Dain-Smith (Vale Drive ar dydd Llun a dydd Mawrth)
  • Luke Davies (Vale Breakfast o dydd Llun i dydd Gwener, prynhawn dydd Sul)
  • Brad Dodd (Prynhawn dydd Sadwrn)
  • Patrick Downes (Nos Lun i Nos Iau)
  • Simon Field (The Bro Beat Club)
  • Dafydd Furnham (Prynhawn dydd Llun, Vale Drive ar dydd Gwener, The Vale Top 20)
  • Danni Graham (Prynhawn dydd Mercher)
  • Stephen Higgs (Prynhawn dydd Sul)
  • Paul Hillier (Bore Sadwrn)
  • Gareth Joy (Prynhawn dydd Sadwrn)
  • Gareth Knight (Prynhawn dydd Llun i dydd Gwener)
  • Simon Marshall (Nos Sadwrn - rhaglen syndicet)
  • Peter Milburn (Nos Sul - rhaglen syndicet)
  • Chloe Monaghan (Bore Iau a bore Gwener)
  • Molly McBreen (Sioe misol - cerddoriaeth lleol)
  • Ian McDonald (Vale Breakfast ar dydd Sadwrn a dydd Sul)
  • Jane Morris (Nos Wener)
  • Matthew Morrissey (Prynhawn dydd Sadwrn)
  • Jamie Pritchard (Cyflwynydd clawr)
  • Angharad Rhiannon (Y Sioe Gymraeg)
  • Nigel Rowland (Between the Covers)
  • Nathan Spackman (Vale Drive ar dydd Mercher a dydd Iau, The Vale This Week)
  • Geoff Selby (Bore Llun i Bore Mercher)
  • Ryan Sutton (It's Showtime)
  • David Warren (Bore Sul)
  • Jodana Weekley (It's Showtime)

Newyddion a materion cyfoes[golygu | golygu cod]

Mae ystafell newyddion Radio Bro yn cynhyrchu bwletinau lleol ar yr hanner awr yn ystod rhwng 7.30 a 10.30 yn y bore ac rhwng 1.30 a 6.30 yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda penawdau ar yr awr yn ystod y rhaglen Vale Drive.[3]

Mae'r ystafell newyddion Bro hefyd yn cynhyrchu rhaglen materion cyfoes, The Vale This Week, ar nos Fercher, a gwasanaeth newyddion ar-lein.

Mae orsaf hefyd yn darlledu bwletinau newyddion genedlaethol gan Sky News Radio ar yr awr, bob awr.[4]

Newyddiadurwyr Darlledu[golygu | golygu cod]

  • Matthew Harris (The Vale This Week)
  • Gareth Joy (Bwletinau prynhawn, The Vale This Week)
  • Nathan Spackman (Bwletinau bore, The Vale This Week)
  • Sarah Jayne Smith (Bwletinau prynhawn)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bro Radio continues expansion across the Vale" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-03. Cyrchwyd 2021-09-03.
  2. "Bro Radio Picks Up Station Of The Year Award" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-03. Cyrchwyd 2021-09-03.
  3. "Public File - Bro Radio" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-05.
  4. "Public File - Bro Radio" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-05.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]