Rached Ghannouchi
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Tunisiaidd o dueddiadau Islamig yw Rached Ghannouchi neu Rachid Al-Ghannouchi (Arabeg: راشد الغنوشي, ganed 22 Mehefin 1941, El Hamma, Tunisia). Ef yw arweinydd mewn alltudiaeth Hizb al-Nahda, gwrthblaid waharddedig yn Tunisia sy'n gweithio dros greu gweriniaeth Islamaidd yn y wlad honno.
Bu'n garcharor gwleidyddol yn Tunisia ddiwedd y 1980au. Am ei fod wedi ei ddeddfrydu i garchar am oes ni all ddychwelyd i'w famwlad dan yr amgylchiadau presennol, ond mae'n ffigwr dylanwadol ymhlith Tunisiaid alltud. Yn swyddogol, mae ef a'i blaid yn credu mewn Islamiaeth a democratiaeth, gan bwysleisio ei fod am weld sefydlu system lluosogaeth wleidyddol yn y wlad, ond mae rhai yn amau diffuantrwydd hyn.
Dolen allanol [golygu]
- (Arabeg) Gwefan plaid Rached Ghannouchi