Richard James Thomas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o R. J. Thomas)
Richard James Thomas
Ganwyd1908 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw1976 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgeiriadurwr Edit this on Wikidata

Geiriadurwr Cymraeg oedd Richard James Thomas (19081976), a adnabyddir gan amlaf fel R. J. Thomas.

Ganed R. J. Thomas yng Nghaerdydd yn 1908 a chafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Ar ôl blynyddoedd o brofiad fel darllenydd (rhywun sy'n hel enghreifftiau o eiriau), ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ac yn y flwyddyn 1947 fe'i apwyntiwyd yn olygydd. Daliodd y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1975. Bu farw flwyddyn ar ôl hynny, yn 1976.

Roedd yn un o'r prif arbenigwyr ar enwau lleoedd Cymraeg. Ffrwyth ei ymchwil yn y maes yw'r gyfrol Enwau afonydd a nentydd Cymru (1938). Erys y gyfrol hon - sy'n cynnwys astudiaethau manwl o eirdarddiad rhai cannoedd o afonydd a nentydd Cymreig - y prif waith safonol ar y pwnc hyd heddiw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Enwau afonydd a nentydd Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938). Ceir argraffiad diweddarach hefyd.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.