Robert Jones Derfel

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o R. J. Derfel)
Robert Jones Derfel
R. J. Derfel (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ganwyd24 Gorffennaf 1824 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bu farw1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 182417 Rhagfyr 1905).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr yn eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.

Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.

Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant. Galwodd yn ei bapur Traethodau ac Areithiau am bapur dyddiol Cymraeg, cenedlaethol, Prifysgol i Gymru, Llyfrgell Genedlaethol a llyfrgell ym mhob pentref yng Nghymru.

Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
  • Traethodau ac Areithiau (1864)
  • Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
  • Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
  • Caneuon (1891).
  • Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]