R. G. Berry

Oddi ar Wicipedia
R. G. Berry
Ganwyd20 Mai 1869 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ionawr 1945 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, dramodydd Edit this on Wikidata

Gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd oedd Robert Griffith Berry (20 Mai 186916 Ionawr 1945). Ganed yn Llanrwst, Dyffryn Conwy. Ar ôl gorffen ysgol, enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor, lle'r aeth i gwblhau hanner cyntaf ei radd BA cyn mynd ymlaen i Goleg Bala-Bangor. Wrth astudio, bu'n ysgrifennu (dim ond yn Saesneg ar y pryd) ar gyfer cylchgrawn myfyrwyr a bu'n olygydd ar y cylchgrawn am dymor. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Bethlehem,, Gwaelod-y-garth ar 13 Rhagfyr 1896, a phriododd Hannah Watkins o Waelod-y-garth yn Awst 1903. Fe ddaeth Berry yn amlwg fel un o arloeswyr y ddrama Gymraeg, gyda dramâu megis Ar y Groesffordd (1914), Asgre Lân (1916), a'r Ddraenen Wen (1922). Bu'n adnabyddus hefyd am gyfansoddi dramâu byrion.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. G. Berry, Ail-ddechrau (Gwynedd, 19––). Dim dyddiad. [Drama]
  • R. G. Berry, Ar y Groesffordd (Caerdydd, 1914). [Drama]
  • R. G. Berry, Asgre lân (Caerdydd, 1916). [Drama]
  • R. G. Berry, Y Ddraenen Wen (Caerdydd, 1922). [Drama]
  • R. G. Berry, Dwywaith yn Blentyn (Caerdydd, 1924). [Drama]
  • R. G. Berry, Yr Hen Anian (Caerdydd, 1929). [Drama]
  • R. G. Berry, Noson o Farrug (Caerdydd, 1915). [Drama]
  • R. G. Berry, Y Llawr Dyrnu (Aberystwyth, 1930). [Stori Fer]
  • R. G. Berry, ‘Foreword’, yn William Evans, Dreams come true (Pen-y-bont, 1916).
  • R. G. Berry, ‘Y Ddrama Heddiw’, Tir Newydd, rhif 11 (Chwefror, 1938), tt. 5–8.
  • R. G. Berry, Eun nozveziad reo gwenn Trosiad i'r Llydaweg gan Geraint Dyfnallt Owen ac Yann-Vari PerrotNoson o Farrug (Plougerne, 1928). [Drama]

Amdano[golygu | golygu cod]

  • ‘Llawr Dyrnu’, Y Brython (1 Tachwedd 1923), t. 7
  • ‘Y Ddrama 1913–1936’, Barn, rhif 271 (Awst 1985), t. 295.
  • Emyr Edwards, ‘Pontiwr rhwng dau gyfnod’, Barn, rhif 386 (Mawrth 1995), Atodiad Theatr, tt. 33–35.
  • Huw Ethall, R. G. Berry (Abertawe, 1985).
  • Don Llewellyn, ‘Y Parch. R. G. Berry (1869–1945) Capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth, Pen-tyrch’, Y Casglwr, rhif 91 (Gaeaf 2007), 14–15.
  • Fersiwn Llydaweg Noson o Farrug ar lein http://bibliotheque.idbe-bzh.org/document.php?id=eun-nozveziad-reo-gwenn-18682&l=fr Archifwyd 2020-08-20 yn y Peiriant Wayback.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Gwyddoniadur Cymru, tt. 74–75.
  • Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod R. G. Berry ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.