R. Tudur Jones

Oddi ar Wicipedia
R. Tudur Jones
Ganwyd28 Mehefin 1921 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1998 Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd Edit this on Wikidata

Diwinydd a hanesydd eglwysig oedd y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones BA BD D.Phil D.Litt DD (28 Mehefin 192123 Gorffennaf 1998). Fe'i ganwyd yn y Tyddyn Gwyn, Rhoslan, Cricieth, yn fab hynaf i John Thomas ac Elizabeth Jones. Bu dylanwad diwygiad 1904-1905 yn drwm ar ei rieni ac felly gellir cymryd yn ganiataol bod crefydda yn fwy na defod ddiwylliannol yn unig i'r teulu. Gyda Tudur dal yn ifanc bu i ofynion gwaith orfodi'r teulu i symud i'r Rhyl, yn gyntaf i dŷ yn ymyl Pont y Foryd ac wedi hynny ymsefydlu mewn tŷ mwy ar Princes Street. Erbyn hyn roedd ganddo frawd a chwaer iau, John Ifor a Meg. Gweithio fel gard rheilffordd i'r LMS oedd ei dad ac o blegid byw'n syml, yn blaen ac yn ofalus oedd yn reidrwydd i'r teulu.

Yn y Rhyl deuai'r byd Cymraeg a Saesneg ynghyd. Saesneg oedd iaith ysgol Christ Church a diwylliant poblogaidd y dref, ond y Gymraeg oedd iaith y cartref a'r capel. Mynychu capel Carmel yr Annibynwyr oedd teulu Tudur; y gweinidog yno bryd hynny oedd T. Ogwen Griffith – gwr efengylaidd ei ogwydd oedd yn atyniad, bid siŵr, i ysbrydolrwydd rhieni Tudur. Yn y blynyddoedd cynnar yma yng Ngharmel y daeth ei ddoniau a'i allu anarferol i'r amlwg gyntaf a hynny drwy gofio ac adrodd adnodau yn y Capel. Yr arfer ar y pryd oedd i bob plentyn adrodd adnod neu ddwy; rhoes Tudur gynnig ar adrodd penodau cyfan. Bu rhaid i'w Dad roi'r caead ar y sospan pan gyhoeddodd un diwrnod ei fod am fynd ati i ddysgu'r Salm fawr o'i gof! Nododd D. Densil Morgan fod '...tynerwch ei fam (a fu farw yn gwbl annisgwyl yn 1932 yn 44 oed), cadernid ei dad a chymdeithas aelwyd a chapel yn ddylanwadau ffurfiannol arno.'

Addysg[golygu | golygu cod]

Yn un ar ddeg fe aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg y Rhyl lle daeth dan ddylanwad T.I. Ellis ac S.M. Houghton (tad Syr John Houghton). Dan Ellis daeth Tudur i ddechrau ymgyfarwyddo a'r Groeg ac Houghton y'i cyflwynodd i weithiau a syniadau'r Piwritaniaid am y tro cyntaf. Yn y cyfnod hwn y cyfarfu un o'i gyfeillion oes, y nofelydd Emyr Humphreys. Er y gwrthwynebiad gan eu cyd-ddisgyblion roedd Tudur a'i gyfaill Emyr wedi dod i arddel cenedlaetholdeb ac fe'i hysbrydolwyd yn fawr wrth ddilyn hynt a helynt llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Nid dim ond ei ddawn academaidd a'i Gymreictod oedd yn tyfu gwreiddiau yn y cyfnod hwn ond dwysaodd ei fywyd ysbrydol yn ogystal. Nododd iddo gael ei gyffwrdd yn arbennig gan bregeth o eiddo T. Glyn Thomas, Wrecsam a hefyd gan bregeth o eiddo Martyn Lloyd-Jones a draddodwyd mewn ymgyrch efengylaidd ar bromenâd y Rhyl. Dyma'r noson lle 'taniodd y fatsien' fel y nododd mewn rhaglen ddogfen ar S4C yn y nawdegau.

Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Yr Iesu, Rhydychen ond mynnodd ei dad ei fod yn parhau a'i astudiaethau yng Nghymru ac felly i lawr y lein i Fangor yr aeth. Cofrestrodd i ddilyn cyrsiau Cymraeg, Hanes ac Athroniaeth a flwyddyn yn ddiweddarach cofrestrodd yn ogystal fel myfyriwr yng Ngholeg Bala-Bangor gan nodi ei ddymuniad am y tro cyntaf i fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Canolbwyntiodd ei egnïon ym Mala-Bangor lle astudiodd Hanes yr Eglwys dan John Morgan Jones, diwinydd mwyaf rhyddfrydol ei gyfnod yng Nghymru; ac Athroniaeth Grefyddol dan J.E. Daniel oedd yn arddel uniongrededd Awstinaidd, ef oedd un o brif ladmeryddion Barthiaeth yng Nghymru. Er fod gan Tudur barch o'r radd mwyaf at Morgan Jones fel academydd, Daniel yn sicr oedd y ffigwr mwyaf dylanwadol oherwydd iddo asio uniongrededd gyda gwleidyddiaeth – apelia'i hyn yn fawr at Tudur. Nododd Tudur mae Daniel '... a barodd imi sylweddoli pa mor gyfoethog oedd y traddodiad efengylaidd Cymraeg...' Graddiodd yn 1945 gyda'r marciau uchaf erioed i'w dyfarnu gan gyfadran Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru.

Er gwaethaf gwrthwynebiad blaenorol ei dad iddo adael Cymru dyna a wnaeth pan drodd yn 1945 tuag at Coleg Mansfield, Rhydychen i ddilyn cwrs D.Phil. Tarodd ati i lunio traethawd ar fywyd a gwaith y Piwritan Cymreig, Vavasor Powell. Er mae myfyriwr yng Ngholeg Mansfield ydoedd daeth ei diwtor o Goleg Eglwys Crist, dysgodd y Canon Claude Jenkins ddisgyblaeth i Tudur. Mynnodd Claude Jenkins fod Tudur yn cyflwyno ysgrif iddo yn wythnosol hyd yn oed os na theimla fod ganddo unrhyw beth newydd i'w rannu. Bu i'r llwyth gwaith drom yma ddwyn ffrwyth oblegid cwblhaodd Tudur ei draethawd ymhen dwy flynedd yn hytrach na'r dair arferol. Tra yn fyfyriwr yn Rhydychen cyfyd y cyfle iddo dreulio tymor yng nghyfadran Brotestannaidd Prifysgol Strasbourg. Erbyn 1948 daeth ei addysg ffurfiol academaidd i ben ac fe'i ordeiniwyd gan Nathaniel Micklem, prifathro Coleg Mansfield, yn eglwys Seion, Baker Street, Aberystwyth. Y flwyddyn yna fe briododd ei wraig, Gwenllian Edwards, y cyfarfu gyntaf tra'n fyfyriwr ym Mangor.

Gyrfa a chyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Faith and the Crisis of a Nation (Gwasg Prifysgol Cymru, 2004)

Er iddo ddechrau creu enw iddo ef ei hun fel pregethwr grymus fe wyddai pawb mai fel academydd y gallasai gyflawni'r gymwynas fwyaf i'r Annibynwyr ac i Gymru yn gyffredinol. Wedi dwy flynedd yn unig fel gweinidog daeth cadair Hanes yr Eglwys ym Mala-Bangor yn rhydd wedi i Pennar Davies symud i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu, gwahoddwyd Tudur i ymuno â staff y Coleg ac fe dderbyniodd. Wedi marwolaeth Gwilym Bowyer yn 1965 fe'i dyrchafwyd yn brifathro. Yn ogystal a'i ddyletswyddau ym Mala-Bangor fe'i cyflogwyd gan adran Astudiaethau Beiblaidd y Brifysgol fel darlithydd mewn Syniadaeth Gristnogol o 1957 ymlaen ac yn dilyn cau Bala-Bangor ddiwedd yr wythdegau fe'i penodwyd fel Athro Anrhydeddus gan adran Ddiwinyddiaeth y Brifysgol.

Cyhoeddwyd flaen ffrwyth ei D.Phil. ar ffurf ysgrif yn dwyn y teitl 'Vavasor Powell a'r Bedyddwyr' yn 1949. Gydol y pumdegau ymddangosai ysgrifau sylweddol a safonol ganddo mewn cyfnodolion a chylchgronau Cymraeg a Saesneg ar hanes crefydd. Ond fel y noda D. Densil Morgan '...rhagymadrodd oedd y rhain ar gyfer yr un gyfrol a oedd, ac a erys, yn un o glasuron hanes ein crefydd sef 'Hanes Annibynwyr Cymru' (1966) Mae hon yn gyfrol o bwys mawr, dywedodd Geraint H Jenkins amdano; 'This beautifully written book.... became an instant classic and is unlikely ever to be superceded...' Nododd R. Geraint Gruffydd amdani; '...o fewn cwmpas un pâr o gloriau, ....[ceir] hanes Cristnogaeth Brotestannaidd yng Nghymru o ddechrau'r Rhyfeloedd Cartref (a chyn hynny) hyd heddiw... mae'n anodd meddwl yr ysgrifennir fyth ei well...' Fe gyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r gyfrol bwysig hon gan Wasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth Robert Pope yn 2004. Fe ddilynwyd 'Hanes Annibynwyr Cymru' gan 'Yr Undeb: Hanes Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1872-1972' (1975). Yn y gyfrol hon amlygwyd unwaith yn rhagor fod Tudur yn feistr ar ryddiaith Gymraeg. Noda D. Densil Morgan; 'Nid nofel mo'r gyfrol ond mae'n darllen yn well na llawer nofel...' Roedd ei ddawn i ddod a hanes yn fyw, yn ei lyfrau yn ogystal a'i ddarlithiau yn ddawn arbennig a phrin iawn.

Gwnaeth Tudur enw iddo ef ei hun yn ogystal ym maes cyhoeddi hanes crefydd yn Saesneg. Ei gyfrol orchestol gyntaf (cyn unrhyw lyfr Cymraeg yn eironig ddigon) oedd 'Congregationalism in England, 1662-1962' (1962). Ystyrir y gyfrol hon fel un o'r rhai mwyaf awdurdodedig ar Hanes yr Eglwys Gynulleidfaol yn Lloegr. Daeth ei enw i amlygrwydd unwaith yn rhagor ym myd cyhoeddi hanes crefydd yn Saesneg, yn enwedig felly yn yr Unol Daleithiau, yn 1985 pan gyhoeddodd gyfrol ar y Diwygiad Protestannaidd, 'The Great Reformation, from Wycliffe to Knox', yn 1985. Fe ail-gyhoeddwyd y gyfrol hon gan Wasg Bryntyrion yn 1997.

Erbyn y saithdegau symudodd ei ddiddordeb ymchwil rywfaint o gyfnod y Piwritaniaid i gyfnod llawer mwy diweddar sef crefydd yng Nghymru yn oes Fictoria. Ffrwyth yr ymchwil yma oedd cyhoeddi dwy gyfrol sylweddol yn dwyn y teitlau 'Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890-1914', cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1981 ac fe'i dilynwyd gan yr ail flwyddyn yn ddiweddarach. Mae peth anghytundeb ynglŷn ag arwyddocâd y cyfrolau hyn gyda rhai fel R. Geraint Gruffydd yn dadlau '...anodd meddwl nad y gwaith hwn a gyfrifir yn fwyaf arwyddocaol...' tra bod eraill yn dal mae 'Hanes yr Annibynwyr' oedd ei magnus opus gan ddadlau fod amgylchiadau'r cyfnod, pleidlais na '79, yn gysgod dros Tudur ar y pryd ac y bydda'i gasgliadau fymryn yn wahanol petai wedi ei ysgrifennu wedi Refferendwm 1997. Boed hon y gyfrol orau neu beidio ganddo does dim gwadu fod ynddo ddadansoddiad manwl a chraff o'r newid crefyddol a ddigwyddodd yng Nghymru droad yr 20g. Gwerth nodi fod yr ail gyfrol yn cynnwys penodau gwerthfawr iawn yn adrodd hanes Diwygiad 04-05. Mae'r ddwy gyfrol yma wedi eu cyfieithu a'u cyhoeddi fel un cyfrol Saesneg, unwaith yn rhagor wedi ei olygu gan Robert Pope a'i cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2004.

Gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â chyhoeddi cyfrolau hanesyddol daeth gweithiau athronyddol, syniadaethol a defosiynol o'i stydi. Cyhoeddwyd Yr Ysbryd Glan ym 1972 ac yn y gyfrol hon, a lunwyd yn wreiddiol fel maes llafur yr ysgolion Sul, yr amlinellir dadliadau uniongred ddiwinyddol Tudur yn blwmp ac yn blaen. Ato ef y trodd yr Annibynwyr ym 1952 er mwyn tewi'r gwrthwynebiad a ddatblygodd i safiad Undeb yr Annibynwyr ar Hunanlywodraeth i Gymru. Cyhoeddwyd y bamffled Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru ym 1952. Flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd ysgrif ganddo yn Saesneg yn trafod y wladwriaeth; cyhoeddwyd 'The Christian doctrine of the state' yn 'Proceedings of the Seventh International Congregational Council', St. Andrews University (1953). Cyhoeddodd Plaid Cymru bamffled o'i eiddo yn dwyn y teitl 'Egwyddorion Cenedlaetholdeb: y frwydr dros urddas dyn yng Nghymru ym 1959 ac fe ymddangosodd cyfrol Saesneg ar bwnc cenedlaetholdeb o'r enw The Desire of Nations ym 1974. Fe groesa ei ddaliadau Cristnogol yn glir i mewn i'r sffêr wleidyddol mewn ysgrifau sydd i'w canfod yn ei gyfrol Ffydd yn y Ffau a gyhoeddwyd ym 1974. Yn ystod y saithdegau roedd iddo rôl unigryw fel guru i fyfyrwyr Bala-Bangor oedd yn weithgar yn rhengoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac UMCB. Rhoes cefnogaeth agored Tudur i weithgaredd, weithiau yn dor-cyfreithiol, ei fyfyrwyr ddilysrwydd yng ngolwg llawer i weithgaredd protestgar a fyddai'n cael ei weld gan lawer o grefyddwyr a phobl sefydliadol y cyfnod yn annoeth ac eithafol.

Nid dim ond meistr ar lunio ysgrifau a chyfrolau trymion oedd Tudur, roedd ganddo ddawn fel newyddiadurwr poblogaidd. Bu'n olygydd newyddiaduron Cymraeg a Saesneg Plaid Cymru am gyfnodau maith. Cyhoeddodd bentwr o ysgrifau yn y cylchgrawn Barn yn ogystal â'i erthygl wythnosol, "Tremion", yn Y Cymro a barhaodd hyd 1997 pan gyhoeddodd yr olaf, rhif 1,508. Cyhoeddwyd detholiad o'r "Tremion" gorau mewn llyfryn yn dwyn y teitl Darganfod Harmoni ym 1982. Cymaint oedd ei ddawn fel newyddiadurwr nes i'r Daily Express, ym 1968, gynnig swydd lawn amser iddo (a hynny ar gyflog sylweddol uwch nag yr enillasai fel Prifathro Bala-Bangor) fel colofnydd materion Cymreig. Dywedodd Bobi Jones am ei ddawn fel newyddiadurwr: "Newyddiadurwr crefyddol yw ef sydd, ymddengys i mi... yn fwy o ysgolhaig lawer na'r un a gafwyd o'r blaen yn Ynysoedd Prydain."

Roedd ei rôl fel arweinydd Eglwysig oedd a daliadau uniongred wedi ei asio a newyddiaduraeth a'i ymwnelo a Phlaid Cymru yn ei wneud yn ffigwr nid annhebyg i'r gwladweinydd Calfinaidd o'r Iseldiroedd Abraham Kuyper yn ôl Bobi Jones. Byddai Tudur yn gosod ei hun ar y sbectrwm diwinyddol yn agos at Kuyper a Chalfinwyr yr Iseldiroedd ond fe frysia R. Geraint Gruffydd i bwysleisio mai ei '...ddyn ei hun...' oedd Tudur a'i fod yn ddigon o feddyliwr i allu dod i'w gasgliadau ei hun. Ategu hyn a wna D. Densil Morgan pan ddywed "ategu'r syniadaeth a oedd ganddo eisoes a wnaeth Kuyper a'i ddisgyblion, ac ni fu Tudur erioed yn slafaidd ddyledus iddynt". Down i'r casgliad felly bod Tudur yn uniongred Brotestannaidd ond ei fod yn wahanol i'r grwpiau Protestannaidd hynny megis y Pietistiaid a dueddai, yng ngeiriau Tudur ei hun, i "ymddeol a gadael y ddaear a'i diwylliant i elynion Duw". Roedd a wnelo diwinyddiaeth Tudur â'r byd yma yn ogystal â'r byd nesaf.

Erbyn yr wythdegau roedd Tudur yn ffigwr crefyddol o bwys rhyngwladol. Ef oedd llywydd Cynghrair Annibynwyr y Byd rhwng 1981-85 ac yn gymedrolwr Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru 1985-6. Ddechrau'r nawdegau fe'i gwahoddwyd, yn un o ugain yn unig, i gyfarfod tyngedfennol yn hanes undod efengylaidd ym Mhrydain i bwyso a mesur yr ymateb i Fendith Toronto; ef a ddaeth, gyda'i falans o gariad a doethineb, a heddwch i'r trafodaethau. Fe'i gipiwyd gan drawiad calon a hynny yn gwbl annisgwyliedig fis Gorffennaf 1998. Roedd yng nghanol gwaith sylweddol arall pan aeth at ei waredwr, cyfrol ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Erys y teyrngedau iddo gan ei wrthwynebwyr diwinyddol yn ogystal a'i gefnogwyr i R. Tudur Jones fod yn ffigwr sylweddol yn hanes crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru'r 20g.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Robert Pope: 'Un o Gewri Protestaniaeth Cymru: R. Tudur Jones ac Annibynwyr Cymru' yn Codi Muriau Dinas Duw – Anghydffurfiaeth ac Anghydffurfwyr Cymru'r Ugeinfed Ganrif, Robert Pope gol. (2005).
  • Robert Pope: 'A Giant of Welsh Protestantism: R. Tudur Jones (1921-1998)' yn International Congregational Journal 3.1 (2003).
  • D. Densil Morgan: 'Gan Dduw mae'r gair olaf: R. Tudur Jones (1920-1998)' yn D. Densil Morgan: Cedyrn Canrif: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif (2001).
  • D. Densil Morgan: 'Pelagius and a twentieth century Augustine: the contrasting visions of Pennar Davies and R. Tudur Jones', yn International Congregational Journal, 1 (2001).
  • D. Densil Morgan: 'Twentieth-Century Historians of Welsh Protestant Nonconformity' yn Protestant Nonconformity in the Twentieth Century, Sell & Cross gol. (2003)
  • Alun Tudur: Pobol y Ffordd (2006)
  • Sion Rhys Llwyd: "Syniadaeth Wleidyddol R. Tudur Jones" (2006)