Rénmín Rìbào

Oddi ar Wicipedia
Rénmín Rìbào
人民日报

Argraffiad ar 1 Hydref 1949, dyddiad sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsieina
Math Papur newydd dyddiol
Cyhoeddwr Pwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol Tsieina
Sefydlwyd 15 Mehefin 1948
Iaith Tsieineeg (argraffiadau ychwanegol yn Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwseg, ac Arabeg)
Pencadlys Dosbarth Chaoyang, Beijing
Gwefan swyddogol www.people.com.cn

Papur newydd dyddiol a gyhoeddir yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw Rénmín Rìbào (Tsieineeg: 人民日报, Cymraeg: Papur Dyddiol y Bobl). Llais Pwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yw'r papur, ac fe'i gyhoeddir ar draws y byd gyda chylchrediad o 3 i 4 miliwn. Yn ogystal â'i brif argraffiad Tsieineeg, cyhoeddir argraffiadau Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwseg, ac Arabeg.

Yn ystod protestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989, cyhoeddodd Rénmín Rìbào erthygl olygyddol i gondemnio gweithredoedd myfyrwyr. Cynyddodd tensiynau rhwng y protestwyr a'r llywodraeth o ganlyniad i'r erthygl hon.