Derwen
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Quercus)
| Derw | |
|---|---|
| Derwen goesog Quercus robur | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Fagales |
| Teulu: | Fagaceae |
| Genws: | Quercus L. |
| Rhywogaethau | |
|
mwy na 500 |
|
- Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.
Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).
Mytholeg a chred [golygu]
Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.