Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (Ffrangeg: Comité International Olympique) yn fudiad sydd wedi'i leoli yn Lausanne yn Y Swistir. Crëwyd y Pwyllgor gan Pierre de Coubertin a Demetrios Vikelas ar 23 Mehefin 1894. Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys y 205 o Bwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol.

Mae'r POR yn trefnu'r Gemau Olympaidd modern a gynhelir yn yr Haf a'r Gaeaf, pob pedair blynedd. Trefnwyd y Gemau Olympaidd gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol am y tro cyntaf yn Athens, Gwlad Groeg ym 1896; cynhaliwyd Gemau'r Gaeaf yn Chamonix, Ffrainc ym 1924. Tan 1992 arferai cynnal y Gemau Haf a Gaeaf yn yr un flwyddyn. Fodd bynnag, ar ôl y flwyddyn honno, symudodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol Gemau'r Gaeaf fel eu bod yn disgyn rhwng y Gemau Haf, er mwyn cynorthwyo gyda'r trefniadau o gynnal dau ddigwyddiad dwy flynedd ar wahan i'w gilydd.

Sports icon.png Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill