Pwyll ap Siôn

Oddi ar Wicipedia
Pwyll ap Siôn
Ganwyd1968 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor, athro Edit this on Wikidata

Cerddoregydd, cyfansoddwr ac athro mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Pwyll ap Siôn (ganwyd 1968).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Sir Benfro.[1] Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni gan adael yn 1987.

Astudiodd Pwyll ap Siôn gerddoriaeth yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, gan raddio ym 1990. Astudiodd gyfansoddi gyda John Pickard, David Gottlieb a Martin Butler ym Mhrifysgol Bangor, gan dderbyn ei PhD ym 1998.

Academydd[golygu | golygu cod]

Mae’n aelod o staff Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor ers 1993. Mae ei gyfansoddiadau yn ymgais i gyfleu cysylltiadau rhwng diwylliant uchel ac isel, avant-garde a phoblogaidd, minimaliaeth a chymhlethdod; mae ei ymchwil i gerddoriaeth Michael Nyman hefyd yn adlewyrchu’r diddordebau hyn.[2] Yn 2007, cydlynodd y gynhadledd ryngwladol gyntaf erioed ar Gerddoriaeth a Minimaliaeth, a chynorthwyodd i sefydlu’r Gymdeithas Gerddoriaeth Finimalaidd.

Mae Pwyll ap Siôn wedi cyhoeddi ym maes cerddoriaeth boblogaidd o Gymru a cherddoriaeth Geltaidd. Yn 2011, cafodd wahoddiad gan y Sefydliad Ymchwil dros Astudiaethau Gwyddelig ac Albanaidd i gyflwyno papur yn Senedd yr Alban ar Welsh Culture and the Politics of Devolution. Mae’n brif olygydd y gyfrol arfaethedig Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Diddordebau[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd yr allweddellau ar sawl record o gerddoriaeth poblogaidd cyfoes Cymraeg gan gynnwys Dafydd Iwan a Mim Twm Llai.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  CYFANSODDWYR. Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Adalwyd ar 11 Mehefin 2019.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-16. Cyrchwyd 2010-08-11.