Pwtyn yr ynn
| Eupithecia fraxinata | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Geometridae |
| Genws: | Eupithecia |
| Rhywogaeth: | E. innotata |
| Enw deuenwol | |
| Eupithecia innotata f. fraxinata |
|
| Cyfystyron | |
|
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw pwtyn yr ynn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy pytiau'r ynn; yr enw Saesneg yw ash pug, a'r enw gwyddonol yw Eupithecia fraxinata.[1][2] Fe'i ceir yng ngwledydd Prydain.
Mae'n gaeafgysgu fel chwiler. 18–24 mm ydy lled ei adenydd a cheir dwy genhedlaeth: y naill i'w weld ar ei adain rhwng Mai a Mehefin a'r ail genhedlaeth i'w weld yn Awst.
Ystyr y gair "ynn" (sy'n air lluosog) ydy onnen, a'i ddail yw prif fwyd y siani flewog.
Cyffredinol [golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r pwtyn yr ynn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.