Pwll Cenedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Pwll Cenedlaethol Cymru
Mathlleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6075°N 3.9889°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Pwll Cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales National Pool) yn ardal Sgeti o ddinas Abertawe, Cymru. Pwll nofio 50 metr ydyw a adeiladwyd i safonau FINA. Defnyddir y pwll, sydd hefyd yn gartref i bwll hyfforddi llai 25m x 9.5m ac sy'n medru eistedd 1,200 o wylwyr, i hyfforddi athletwyr nofio Cymru. Er fod y pwll o hyd Olympaidd, nid yw ei led o 21m yn ddigon i gael ei ystyried yn bwll o safon Olympaidd.

Mae'r pwll yn un o bump Canolfan Hyfforddi Dwys Nofwyr Prydain, ac fe'i ddefnyddir i hyfforddi athletwyr ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Adeiladwyd y cyfleuster gan arian o Gyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe ac fe'i adeiladwyd ar safle canolfan chwaraeon Prifysgol Abertawe.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]