Putsch y Cadfridogion

Oddi ar Wicipedia

Gwrthryfel na lwyddodd i ddymchwel Charles de Gaulle, Arlywydd Ffrainc, ac i sefydlu junta filwrol wrth-gomiwnyddol oedd putsch y Cadfridogion neu putsch Algiers (Ffrangeg: Putsch d'Alger, Putsch des Généraux). Trefnwyd yn Algeria Ffrengig gan y cadfridogion Maurice Challe, Edmond Jouhaud, André Zeller, a Raoul Salan, oedd i gyd wedi ymddeol o luoedd arfog Ffrainc. Digwyddodd rhwng prynhawn 21 Ebrill a 26 Ebrill 1961 yn ystod Rhyfel Algeria. Roedd trefnwyr y putsch yn gwrthwynebu trafodaethau cudd rhwng llywodraeth Michel Debré, Prif Weinidog Ffrainc, a'r Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (FLN).

Eginyn erthygl sydd uchod am Algeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.